Darganfod gwerth £300,000 o gyffuriau yn Rhondda Cynon Tâf

Cocên Image copyright South Wales Police
Image caption Cafwyd hyd i tua 5kg (11lb) o gocên yn y tŷ yn Nhonypandy.

Mae'r heddlu wedi darganfod cyffuriau gwerth £300,000 ar ôl cynnal cyrch ar dŷ yn Rhondda Cynon Tâf.

Mae dyn 33 oed wedi ei arestio yn dilyn yr ymgyrch yn Nhonypandy.

Roedd yr heddlu wedi darganfod y cyffuriau, a gredir i fod yn gocên, mewn bocs wedi ei guddio mewn plastig.

'Canfyddiad sylweddol'

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Mark Lewis ei fod yn "ganfyddiad sylweddol a fydd yn cael effaith anferthol ar y cyflenwad o gyffuriau yn y Rhondda."

Roedd Heddlu De Cymru yn gweithredu gwarant dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau gan ddefnyddio tîmau o swyddogion arbenigol i fynd mewn i'r adeilad.

Dywedodd Mr Lewis: "Mae darganfyddiad heddiw yn dod fel canlyniad i waith rhagweithiol ardderchog gan ddangos sut rydan ni'n erlid delwyr cyffuriau.

"Rydw i'n gofyn wrth gymunedau i barhau i gydweithio gyda ni, gan weithredu fel ein llygaid a'n clustiau, sy'n hanfodol yn y frwydr yn erbyn trosedd."

Gall unrhyw un gyda gwybodaeth alw'r heddlu ar 101 neu Crimestoppers ar 0800 555 111.