Anghydfod Halfpenny wedi'i ddatrys

Leigh Halfpenny Image copyright PA

Mae'n ymddangos bod y ffrae am ddyfodol Leigh Halfpenny gyda chlwb Toulon yn Ffrainc wedi'i datrys yn dilyn trafodaethau.

Dyw'r cefnwr 25 oed heb chwarae i'w glwb newydd ers ymuno o'r Gleision dros yr haf wedi iddo anafu ei ysgwydd yn chwarae i Gymru ym mis Mawrth ac yna cael anaf arall i gesail ei forddwyd.

Yr wythnos ddiwethaf dywedodd llywydd Toulon, Mourad Boudjellal, ei fod yn ystyried diddymu cytundeb y chwaraewr am resymau meddygol.

Ond mae'r BBC ar ddeall bod yr anghydfod wedi ei ddatrys yn dilyn trafodaethau brys rhwng cynrychiolydd Halfpenny a swyddogion y clwb.

Bellach mae Halfpenny yn ôl yn ymarfer, ac mae'r rhai sy'n agos ato yn credu y gallai chwarae eto o fewn tair wythnos.

Roedd yr anghydfod wedi tynnu sylw'r Gleision a'r Gweilch, gyda'r ddau wedi dweud y bydden nhw'n ystyried ceisio denu'r chwaraewr yn ôl i Gymru - fe fyddai hynny'n debyg o fod ar gytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru.

Straeon perthnasol