Hwylio: Medal efydd i Hanna Mills

Hannah Mills Image copyright Getty Images

Mae Hannah Mills o Gymru wedi ennill medal efydd ym Mhencampwriaeth Hwylio'r Byd yn Santander yn Sbaen gyda'i phartner Saskia Clarke.

Roedd y ddwy yn cynrychioli Prydain yn y gystadleuaeth Dosbarth 470 i barau.

Enillodd y ddwy fedal arian yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012, ac mae'r canlyniad yn Sbaen yn golygu eu bod wedi cymhwyso i gystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Rio yn 2016.

Lara Vadlau a Jolanta Ogar o Awstria gipiodd y fedal aur gyda Jo Aleh a Polly Powrie o Seland Newydd yn ail.