Gweilch 62-13 Caeredin

Gweilch v Caeredin Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Buddugoliaeth gyfforddus i'r Gweilch yn erbyn Caeredin.

Ennill gwnaeth y Gweilch gartref yn erbyn Caeredin.

O fewn dau funud i ddechrau'r gêm roedd y Gweilch ar y blaen diolch i gais unigol gwych gan Nicky Webb, a llwyddodd Dan Biggar gyda'r trosiad i roi mantais o saith pwynt i'r tîm cartref.

Daeth pwyntiau cyntaf Caeredin wrth i Tom Heathcote lwyddo gyda chic gosb, ond roedd y Gweilch yn parhau i gael y gorau ar y chwarae, wrth i'r dyfarnwr orfod troi at y dyfarnwr fideo i benderfynu a oedd y Gweilch wedi llwyddo i groesi'r llinell.

A'r ateb - nag oeddan.

Ond o fewn munudau roedd Webb wedi sgorio'i ail gais, a Biggar wedi llwyddo gyda'i ail drosiad.

Sgoriodd Dan Baker drydedd cais y Gweilch a llwyddodd Biggar gyda'r trosiad.

Cyn yr egwyl llwyddodd Hamish Watson i groesi'r llinell ar gyfer Caeredin, ac ychwanegodd Heathcote ddau bwynt gyda'i drosiad i leihau'r bwlch rhwng y ddau dîm.

Yn y munud olaf cyn i'r hanner ddod i ben llwyddodd Biggar gyda chic gosb i wneud y sgôr ar yr egwyl yn 24-10.

Cafodd Caeredin ddechrau da i'r ail hanner wrth i Heathcote lwyddo gyda chic gosb, ond doedd y dechrau hwnnw ddim am barhau'n hir wrth i'r Gweilch sgorio dau gais o fewn munudau i'w gilydd - un i Biggar a'r llall i Jeff Hassler- i gynyddu mantais y tîm cartref.

Daeth chweched cais i'r Gweilch diolch i Jonathan Spratt, a hynny wedi cryn bendroni gan y dyfarnwr fideo, ac yna seithfed cais i'r tîm cartref diolch i Hanno Dirksen.

A doedd dim stop ar sgorio'r tîm cartref wrth i Tom Grabham a Tyler Ardron lwyddo i gael cais yr un i ychwanegu pwyntiau i gyfanswm y Gweilch.