Datganoli: Be' nesa' i Gymru?

Ar ôl canlyniad y refferendwm yn yr Alban mae 'na oblygiadau i weddill gwledydd y Deyrnas Unedig gan gynnwys Cymru. Ers y bleidlais Na, mae'r bargyfreithiwr Gwion Lewis wedi paratoi rhifyn newydd o'i gyfres Annibyniaeth gafodd ei darlledu ar BBC Radio Cymru ym mis Mehefin. Mae o hefyd wedi rhannu ei deimladau gyda Cymru Fyw am arwyddocad y canlyniad:

Image copyright Rondo media

Doedd hyn ddim i fod i ddigwydd. Pan gafodd fy nghyfres 'Annibyniaeth' ei darlledu ar BBC Radio Cymru ym mis Mehefin eleni, dri mis cyn y refferendwm yn yr Alban, y bwriad oedd trafod y prif ddadleuon ar y ddwy ochr a gofyn beth fyddai goblygiadau'r broses ar gyfer Cymru.

Roedd hi wastad yn bosibl, wrth gwrs, y gallai'r Albanwyr bleidleisio o blaid annibyniaeth, ond fel y mwyafrif helaeth o bobl, dybiwn i, ro'n i'n ystyried canlyniad o'r fath yn annhebygol o weld yr arolygon barn ar y pryd. Cyfres fer o bedair rhaglen yn ymwneud â digwyddiad unigryw: dyna fyddai 'Annibyniaeth', a dim mwy na hynny.

Rhagor o ddatganoli?

Pam felly ydw i'n fy ôl yn annisgwyl gyda phumed rhifyn o'r gyfres? Go brin fod yn rhaid i mi egluro. Fore Gwener diwethaf, cafodd y Deyrnas Unedig ysgytwad. Ychydig a fyddai wedi darogan ar ddechrau'r ymgyrch y byddai bron i hanner poblogaeth yr Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth, gan orfodi'r pleidiau Prydeinig i addo mwy o bwerau i Senedd yr Alban, ar fyrder, er mwyn tawelu'r dyfroedd.

Image caption Y bore wedi'r noson cynt - David Cameron yn addo rhagor o ddatganoli yn y DU

Bellach, mae David Cameron yn tynnu mwy o sylw at brint mân y fargen honno, sef y dylai unrhyw ddatganoli pellach i'r Alban ddigwydd ochr yn ochr â datganoli o'r newydd yn Lloegr. Nid oedd sôn am y cymhlethdod bach hwnnw cyn i bobl yr Alban fwrw eu pleidlais.

Mae'n gymhlethdod sy'n debygol o ohirio, o leiaf, unrhyw newid cyfansoddiadol o bwys. Yr oedd cael y prif bleidiau i gytuno pa bwerau pellach y dylid eu datganoli i'r Alban yn mynd i fod yn ddigon anodd ynddo'i hun. Wrth daflu Lloegr hefyd i'r botes, mae Cameron wedi codi nyth cacwn arall sy'n prysur ddadrithio llawer o'r Albanwyr ansicr a bleidleisiodd, y tro hwn, o blaid aros yn y clwb Prydeinig.

Newid cyfansoddiadol

Yng nghanol y ddrama gyfansoddiadol bresennol, rhyw ran ddigon ymylol y mae Cymru yn ei chwarae hyd yma. Byddai rhai'n dweud fod hynny'n anochel gan mai lleiafrif bychan yng Nghymru sy'n galw am newid cyfansoddiadol sylweddol.

Ond yn greiddiol i'r trafodaethau rhwng Lloegr a'r Alban mae parhad trefniant ariannol - y fformiwla Barnett fondigrybwyll - a fyddai, yn ôl rhai, yn rhoi Cymru o dan anfantais economaidd sylweddol am genhedlaeth arall. Pe bai'r Alban yn wynebu'r fath anfantais honedig, mae gen i deimlad y byddai gan wleidyddion Senedd yr Alban rywbeth i'w ddweud am y peth.

Image caption Mae'r Arglwydd Barnett ei hun wedi galw am ddiwygio'r fformiwla ddyfeisiodd o yn y 70au

Fformiwla Barnett a thu hwnt

Y naratif poblogaidd yw fod Cymru, yn y cyfnod modern, wedi ei chael hi'n anodd torri ei chwys ei hun yn wyneb "gorthrwm" San Steffan.

Ond i ba raddau y mae'r bai arnom ni'n hunain am hynny? Ai cenedl hyderus ac effro yw'r Cymry heddiw, ynteu cenedl gysglyd yn ymlwybro'n ddigyfeiriad o un bennod i'r llall? Dyna rai o'r cwestiynau anghyfforddus, ond angenrheidiol, sy'n codi mewn rhifyn arbennig o 'Annibyniaeth' yr wythnos hon.

Annibyniaeth, Nos Fawrth 23 Medi 19:02, BBC Radio Cymru

Image caption A fydd Cynulliad Cymru yn cael rhagor o bwerau deddfu ar ôl refferendwm yr Alban?