Carwyn Jones eisiau llu o bwerau newydd

Carwyn Jones

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud ei fod eisiau gweld yr holl bwerau gafodd eu hargymell gan Gomisiwn Silk yn cael eu datganoli fel "isafswm".

Yn siarad yn y Senedd dywedodd fod y sefyllfa wleidyddol "wedi newid" yn sgil digwyddiadau yn yr Alban ac ategodd ei alwad am "hunanlywodraeth i wledydd y DU".

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cytuno i ddatganoli rhai pwerau oedd yn cael eu hargymell gan y comisiwn yn eu hymateb i ran gyntaf yr adroddiad.

Ond roedd yr adroddiad yn cynnwys dau argymhelliad gafodd eu gwrthod, gan gynnwys toll teithwyr awyr a'r hawl i newid graddfeydd gwahanol fandiau treth incwm ar wahân.

Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies eisoes wedi dweud ei fod yn ffyddiog y bydd y lockstep - fel mae'n cael ei alw - yn cael ei dynnu o'r mesur sy'n mynd drwy San Steffan ar hyn o bryd.

Cliciwch yma ar gyfer canllaw geirfa datganoli Cymru Fyw sy'n cynnwys esboniad o ystyr termau fel 'lockstep'.

Pe byddai holl argymhellion ail ran yr adroddiad yn cael eu gwireddu byddai'n gweld yr holl bethau hyn yn digwydd:

  • Datganoli plismona, y system gyfiawnder ieuenctid, prosiectau ynni dros 350MW, tâl ac amodau athrawon, elfen gwariant cyhoeddus S4C a'r cyfrifoldeb ar gyfer cynnal etholiadau lleol;
  • Cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad o 60 i 100;
  • Yr Ysgrifennydd Gwladol yn colli ei hawl i gymryd rhan mewn sesiynau Cynulliad;
  • Sefydlu Uchel Lys a bwrdd cyfiawnder ar gyfer Cymru.

Mae'r manylion llawn o'r hyn mae Silk rhan dau yn ei argymell i'w gweld yma.

Beth mae'r pleidiau eraill eisiau?

Yn siarad ar y Wales Report ddechrau'r wythnos, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies: "Rwy'n meddwl mai'r peth cyntaf i ystyried yw pwerau ariannol ac mae'r bil yna yn mynd drwy Dŷ'r Cyffredin ar hyn o bryd...

"Rwy'n credu mai hwn ydi'r unig nod y dylen ni fod yn canolbwyntio arno oherwydd yr un peth sydd wedi bod yn wan i ddweud y lleiaf dros y 15 mlynedd diwethaf yng Nghymru yw perfformiad economaidd yma yng Nghymru.

"Rwyf eisiau gwneud yn siŵr fod y pecyn o fesurau economaidd yn iawn ac yn gywir ar gyfer Cymru yn yr 21ain ganrif i alluogi ein demoratiaeth i ddefnyddio'r pwerau yna i gynyddu'r perfformiad economaidd a chyfoeth ledled Cymru."

Dywedodd hefyd ei fod o blaid newid y system ddatganoli i un pwerau wrth gefn.

Mae Plaid Cymru wedi galw am ddatganoli nifer sylweddol o feysydd, gan gynnwys plismona, y system gyfiawnder, darlledu, ynni, cyfiawnder, dŵr, y rheilffyrdd, materion cyfansoddiadol a threfniadau etholiadol.

Maen nhw eisiau gweld Cymru'n cael yr un pwerau ac sy'n cael eu cynnig i'r Alban.

Dywedodd Leanne Wood: "Os yw'r pleidiau eraill yn awr mewn difrif yn cydnabod mai gwladwriaeth aml-genedlaethol yw'r DG, dylent allu cefnogi'r egwyddor mai pobl y cenhedloedd sydd yn sofran...

"Gall pob plaid yn ein Cynulliad Cenedlaethol ddod ynghyd y tu ôl i gynnig Plaid Cymru ac yr wyf yn edrych ymlaen at weithio gyda hwy i ennill i Gymru ganlyniad fydd yn cyflawni dros bobl y wlad."

Mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams wedi dweud bod ei phlaid eisiau symud tuag at system ffederal, lle mae gwledydd y DU â llawer mwy o reolaeth dros eu materion eu hunain.

Dywedodd: "Mae Cymru angen cael cyfle i ddweud ei barn ar drethu, plismona, y rheilffyrdd, prosiectau ynni mawr a llawer mwy.

"Mi wnaiff mwy o oedi mewn cysylltiad â'r pwerau yma gostio'n ddrud i Gymru."

Ychwanegodd ei bod eisiau gweld Cymru yn cael "ei Senedd ei hun sy'n gweithio'n iawn ar ei phen ei hun" a'i bod hi'n fodlon gweithio gyda phleidiau eraill er mwyn ceisio cyrraedd consensws.

Straeon perthnasol