Ysgol Gymraeg Gyntaf Cymru yn 75

Un o ddosbarthiadau Ysgol Gymraeg Aberystwyth Image copyright Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Erbyn hyn mae 'na ddwsinau o ysgolion Cymraeg ar hyd a lled y wlad, ond yn 1939 dim ond un oedd yna - Ysgol Gymraeg Aberystwyth.

Ar y pryd roedd ei sylfaenydd, Syr Ifan ab Owen Edwards, yn ofni y byddai mewnlifiad o faciwîs yn effeithio ar yr iaith Gymraeg. Nawr bod yr ysgol yn dathlu ei phen-blwydd yn 75, mae Cymru Fyw wedi bod yn sgwrsio â theulu sydd â chysylltiadau agos â'r ysgol. Roedd David Meredith yn ddisgybl yno nôl yn yr 1940au. Mae ei fab Owain bellach yn rhiant ac yn anfon ei fab Jac yno:

David Meredith: "Mi ddechreuais i yn yr ysgol yn 1944 yng Nghanolfan yr Urdd, lle roedd hi ar y pryd, pan ro'n i'n dair oed. Roedd fy mrawd, sydd rai blynyddoedd yn hŷn na fi, yn un o'r saith disgybl cyntaf i ddechrau'n yr ysgol, gyda fy chwaer hefyd yn dechrau yn fuan wedyn. Roedd fy nhad a fy mam, yn gadeirydd ac athrawes, ar dân dros yr iaith, ac yn awyddus iawn i'w plant dderbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg."

Image caption David Meredith (chwith) yng nghwmni Prys Edwards, un arall o gyn-ddisgyblion Ysgol Gymraeg Aberystwyth a mab ei sylfaenydd Syr Ifan ab Owen Edwards

Beth ydych chi'n ei gofio am yr ysgol?

"Beth oedd mor arbennig oedd bod gan yr ysgol ddosbarthiadau bychan ac, yn gyn-athro fy hun, dwi'n deall pwysigrwydd dosbarthiadau bach er mwyn cael perthynas glos rhwng yr athro a'r disgybl.

"Dwi'n cofio camu o'r dosbarth at wyrddni bendigedig ym mhlasdy Lluest, gyda blodau rhododendrons yn lliwio'r lle. Roedd 'na naws ddaearyddol iawn i'r ysgol gyda Norah Isaac y brifathrawes, ffigwr blaenllaw ym myd addysg Cymraeg, yn ein hannog i ddysgu drwy natur. Roedd 'na awyrgylch unigryw yn perthyn i'r ysgol pan ro'n i'n blentyn, awyrgylch sy'n parhau yno heddiw. Dwi'n cofio bod yn ymwybodol iawn o'r cyferbyniad llachar rhwng ysgol Llanbadarn, gyda'r concrit a'r clai o dan fy nhraed yn nghanol tre' Aberystwyth, ag ysgol Lluest yng nghanol cefn gwlad."

Image copyright Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Ond roedd hi'n anodd iawn, am gyfnod, i gynnal yr ysgol yn ariannol?

"Oedd. Roedd hi'n gyfnod allweddol yn hanes yr ysgol. Bryd hynny, roedd rhaid i'r rhieni dalu am addysg Gymraeg i'w plant. Roedd hyn yn erbyn egwyddor fy nhad, y Parchedig J E Meredith a deimlai'n gryf bod gan bob plentyn hawl i addysg Gymraeg am ddim. Mi fu hi'n frwydr galed i geisio sicrhau'r egwyddor hwnnw.

"Mae'n stori o lwyddiant. Erbyn hyn mae'n bleser cael eistedd nôl a gwylio'r wyrion yn derbyn addysg wnaeth fy rhieni frwydro i'w hennill. Roedd fy nghyfnod i yn yr ysgol yn un arbennig, gydag athrawon disglair tu hwnt, rhinweddau sydd yn dal i fodoli heddiw. Mae 'na awyrgylch arbennig yn perthyn i'r ysgol yma; mae'n ysgol lwyddiannus, hapus, llawn creadigrwydd. Gyda hapusrwydd a ffyniant daw llwyddiant."

Image caption David Meredith (yn y canol, rhes gefn) yn ei ddyddiau cynnar yn yr ysgol

Owain Meredith: "Fel rhiant i bedwar disgybl yn yr ysgol, dwi'n llawn balchder o'r ymdrech wnaeth fy nain a 'nhaid, a theuluoedd eraill yr ardal er mwyn sefydlu'r ysgol hon. Roedd 'na wrthwynebiad go chwyrn yn erbyn addysg Gymraeg y dyddiau hynny, a dim llawer o gefnogaeth oddi wrth yr awdurdodau lleol.

"Mae'n anodd credu fod 'na ddim ysgol Gymraeg yn bodoli 75 mlynedd yn ôl, rhywbeth 'dyn ni'n ei gymryd yn ganiataol y dyddiau yma. Anodd credu hefyd pa mor bell mae addysg Gymraeg wedi dod, a dwi'n eithaf siwr b'asai fy nhaid a fy nain yn methu â chredu'r peth."

Faint o newid sydd wedi bod ers dyddiau cynnar yr ysgol?

"Mae'r 400 o ddisgyblion sy'n mynd i'r ysgol yn destament i'r gwaith caled gafodd ei wneud i frwydro dros ddyfodol yr iaith, ac hefyd i'r gwaith o gynnal y safon heddiw. Mae Aberystwyth a'r ardal gyfagos yn llawer mwy Cymreig erbyn hyn na phan oedd fy nhad yn blentyn. Roedd Aberystwyth yn reit Seisnigaidd ar y pryd ond mae'n ryddhad i allu dweud ei bod wedi Cymreigio'n arw.

"Mae'r ysgol ei hun yn un lewyrchus, hapus, sy'n mynd o nerth i nerth. Mae 'na lot o ddisgyblion yn mynd iddi hi fuasai ddim wedi cael y cyfle fel arall, gyda llawer ohonyn nhw yn dod o gartrefi di-Gymraeg hefyd."

Image caption Fel rhan o ddathliadau'r dydd, mae rhai o ddisgyblion yr ysgol mewn gwisgoedd o'r 1930au

Jac (9 oed): "Dwi'n mwynhau mas draw yn yr ysgol. 'Dyn ni wedi bod yn paratoi at y dathliadau drwy ddysgu caneuon Cymraeg i'w perfformio o flaen cynulleidfa a fydd yn cynnwys ambell i gyn-ddisgybl yr ysgol. Byddwn ni hefyd yn gwisgo mewn gwisgoedd o'r 1930au, tebyg iawn i be fyddai fy nhaid wedi ei wisgo pan oedd e yr un oed â fi."