Prosiect DNA arloesol i ganfod mwy am y Cymry

Hanes Cymru
Image caption Y gobaith ydy y bydd y prosiect yn rhoi gogwydd newydd ar hanes y Cymry

Pwy ydy'r Cymry? Oes modd herio rhai o'r syniadau traddodiadol am hanes y genedl? Mae prosiect ymchwil uchelgeisiol yn gobeithio cael rhai o'r atebion dros y blynyddoedd nesa'.

Ar adeg pan fo hunaniaeth genedlaethol holl genhedloedd Prydain ac Iwerddon dan y chwyddwydr, mae prosiect Cymru DNA Wales yn gobeithio diffinio beth yw bod yn Gymreig.

Nos Fercher, bydd S4C - mewn cydweithrediad â'r Western Mail, y Daily Post, Green Bay Media, a Chymru DNA Wales - yn lansio'r prosiect yn swyddogol.

Y gobaith yw y bydd rhai miloedd o bobl yn cyfrannu at yr ymchwil, trwy anfon samplau o'u poer i'r cwmni sy'n cynnal yr ymchwil - Scotland's DNA - a'r nod yn y pendraw fydd creu rhaglenni teledu arloesol, yn ogystal â chyfrannu at y drafodaeth hanesyddol a gwyddonol ynghylch tarddiad y genedl.

Ar drothwy'r lansiad, mi fu Cymru Fyw yn holi cydlynydd y prosiect, Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C.

Sut ddaeth y syniad ar gyfer y prosiect?

Mi ddaeth y syniad gwreiddiol gan Ian Jones, prif weithredwr S4C, flynyddoedd yn ôl - roedd o'n gweithio i gyhoeddiad National Geographic yn America - r'oddan nhw'n gweithio ar gynllun i brofi be' oedd tarddiad rhai o'r llwythi brodorol yn America. Felly pan ddaeth Ian i Gymru, mi soniodd o'r dechrau y byddai'n dda gwneud rhywbeth tebyg yng Nghymru. Wedyn mi wnaeth o gwrdd â ffrind yn yr Alban, Alistair Moffat, r'oddan nhw'n hen ffrindiau. Mi ddechreuon nhw drafod y peth a gweld bod cnewyllyn syniad da yno a dyna ddechrau pethau o ddifri.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae tystiolaeth fod rhai o'r creigiau yng Nghôr y Cewri wedi dod o Sir Benfro

Sut fydd pobl yn cyfrannu at y gwaith ymchwil?

Profion poer ydyn nhw - mi fydd gofyn i bobl roi sampl o'u poer mewn bocs bach - 'da ni wedi bathu'r term 'Pecyn Poer' - a'i anfon i labordy cwmni Scotland's DNA yn yr Alban. Mi fydd 'na god bar arbennig i fynd hefo pob sampl, i sicrhau diogelwch yr holl beth a sicrhau bod pobl yn cael y canlyniadau cywir. Mi fydd pawb yn cael y canlyniadau'n ôl, fydd yn rhoi map DNA o'u hanes nhw. Mae Scotland's DNA yn gwmni cydnabyddedig yn yr Alban, ma' nhw hen arfer gwneud y math yma o beth.

Un peth sy'n ddifyr ydy'r ffaith y bydd profion dynion yn rhoi mwy o wybodaeth na rhai merched - mae'n debyg bod dynion hefo mwy o markers DNA, sy'n golygu bod modd dysgu mwy oddi wrth eu samplau nhw.

Ai dyma'r tro cynta' i rywbeth fel hyn gael ei wneud yng Nghymru?

Hwn yn sicr fydd yr astudiaeth DNA mwya' eang yng Nghymru, y tro cynta' i rywbeth tebyg gael ei wneud ar y lefel yma, sy'n canolbwyntio yn benodol ar ffiniau Cymru. Mae petha' tebyg wedi digwydd ym Mhrydain o'r blaen, ond gyda sampl bach o Gymru. Mi fydd pawb sy'n byw o fewn cod post Cymru'n gallu bod yn rhan o'r astudiaeth yma - dim ots os ydy pobl wedi symud yma'n ddiweddar, neu os ydy'u teuluoedd nhw'n byw yma ers canrifoedd.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae cestyll Cymry'n rhan bwysig o hanes y genedl

Pa mor fawr fydd y sampl 'da chi'n gobeithio casglu?

Yn wyddonol, dydy o ddim yn gorfod bod yn sampl enfawr. Ond 'da ni'n teimlo, y mwya'n byd ydy o, gorau oll. Gobeithio y bydd 'na rai miloedd yn cymryd rhan drwy Gymru i gyd.

Beth fydd penllanw'r prosiect, felly?

Wel mae'n ddifyr iawn i S4C - mae'r math o gynnwys ar gyfer rhaglenni hanesyddol allai gael eu gwneud allan o hyn yn anhygoel. Dyna pam mae Greenbay yn rhan o hyn i gyd - maen nhw'n gwmni teledu sydd wedi arfer gwneud rhaglenni mawr hanesyddol.

Mi fydd 'na raglen one-off tua mis Ebrill 'efo'r casgliadau hyd at y pwynt yna. Wedyn, tua mis Hydref, mi fydd 'na gyfres eitha' pwysig yn codi'r cwestiynau am y Cymry.

O ran gweddill y bartneriaeth, mi fydd 'na straeon yn ymddangos yn y Western Mail a'r Daily Post hefyd yn ystod y cyfnod.

'Da ni'n gobeithio gallu herio rhai o'r syniadau traddodiadol sydd gynnon ni am y Cymry. Dwi'n gobeithio hefyd y bydd yn agor drysau i gymaint o bethau eraill - y bydd gan sefydliadau fel yr Amgueddfa Genedlaethol, y Llyfrgell Genedlaethol, ac efallai prifysgolion Cymru, ddiddordeb yn yr holl beth, a bydd modd ehangu ar y prosiect.

'Da ni'n gobeithio, yn y pendraw, rhoi trac o symudiadau pobloedd dros y canrifoedd, o le ddaeth y Cymry gwreiddiol ar ôl Oes yr Ia - ydan ni'n gallu ffeindio rhywbeth yn y profion DNA sy'n dangos bod 'na garfannau o bobl yng Nghymru sy' wedi dod o ganolbarth Ewrop. Y gobaith ydy, wrth gwrs, y medrwn ni greu chwilfrydedd ymhlith pobl am hanes pobl Cymru.

Image caption Un o'r Cymry enwoca', Owain Glyndŵr

Allwch chi rannu rhai o'r casgliadau hyd yma hefo Cymru Fyw?

Mi fydd yr astudiaeth yn gallu edrych ar bob math o betha' - mi fydd y samplau'n rhoi gwybodaeth i ni am liw llygaid pobl ac ati. Pryd ddaeth y llygaid glas cynta' i Gymru, er enghraifft? Pryd ddaeth gwallt coch yn rhywbeth cyffredin yng Nghymru? Mi fyddwn ni hefyd yn edrych ar ardaloedd daearyddol - er enghraifft, pwy ydy pobl Môn - be' ydy'r mics? Sut daethon nhw yno? Mae gwyddoniaeth wedi trawsnewid y ffordd 'da ni'n deall DNA, wrth gwrs.

Mi fydd 'na un neu ddau o gasgliadau'n cael eu cyhoeddi yn y lansiad nos Fercher - ond fedra' i ddim dweud mwy na hynny am rŵan!

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.