Chwilio yn y môr oherwydd dingi gwag

Y dingi Image copyright Rhyl RNLI

Wedi i ddingi gwag gael ei ganfod yn y môr ger Y Rhyl, bu chwilio mawr gan yr RNLI, y bad achub a'r Awyrlu.

Roedd 'na wialen bysgota, potel ddiod a sandal fflip-fflop yn y cwch bach, gafodd ei ganfod ddwy filltir oddi ar arfordir y Rhyl brynhawn dydd Mawrth.

Bu bad achub lleol Y Rhyl, yr RNLI a hofrennydd yr Awyrlu yn chwilio am berchennog y dingi.

Daeth diwedd ar y chwilio pan gafwyd hyd i fam a "bachgen gwlyb iawn" ar y traeth.

Yn ôl Gwylwyr y Glannau Caergybi, mae'n debyg fod y bachgen wedi dychryn ar ôl mynd yn rhy pell oddi wrth y lan, a phenderfynu gadael y cwch a nofio i'r traeth.

"O leia' roedd 'na ddiweddglo hapus," medd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau.