Monitro anaf Ken Owens

Ken Owens

Mae bachwr Cymru a chapten y Scarlets, Ken Owens, wedi cael sgan i weld pa mor ddifrifol yw'r anaf i'w wddf.

Fe gafodd Owens yr anaf yn ystod sesiwn hyfforddi, gan olygu iddo fethu buddugoliaeth y Scarlets yn erbyn Treviso yn y PRO12 ddydd Sadwrn.

Nawr, mae'r clwb wedi cyhoeddi ei fod wedi cael ei asesu gan eu tîm meddygol, ac wedi derbyn cyngor gan arbenigwyr.

"'Dy ni wedi dilyn proses fanwl o ymgynghori gydag arbenigwyr yn y dyddiau diwetha' o ran anaf Ken, ac fe fyddwn ni'n penderfynu ar gynllun yn y man," medd pennaeth perfformio'r Scarlets, Andrew Walker.

Mae Owens, 27, wedi bod yn rhan o dîm Cymru yn y tri prawf diwethaf, yn cynnwys y ddwy gêm yn Ne Affrica dros yr haf.

Mae ganddo 26 cap rhyngwladol.

Fe fydd Cymru'n dechrau cyfres yr hydref yn erbyn Awstralia ar 8 Tachwedd, cyn herio Fiji, Seland Newydd a'r Springboks.