Ymchwilio i farwolaeth dyn 90 oed yn Ysbyty Singleton

ysbyty singleton
Image caption Bu farw Alfred Squire yn gynharach yn y mis yn Ysbyty Singleton

Mae'r heddlu yn ymchwilio i farwolaeth dyn 90 oed, fu farw yn Ysbyty Singleton yn Abertawe yn gynharach yn y mis.

Mae'r crwner wedi gorchymyn ymchwiliad oherwydd bod amgylchiadau "anarferol" am farwolaeth Alfred Squire.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg: "Rydym yn mynegi ein cydymdeimlad diffuant i deulu'r claf 90 mlwydd oed fu farw yn Ysbyty Singleton."

Ychwanegodd llefarydd nad oes unrhyw awgrym fod ei farwolaeth yn gysylltiedig ag unrhyw fethiant o ran y staff.

Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio ac mae'r heddlu yn dweud eu bod yn ymchwilio fel mater o drefn.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: "cafodd yr Heddlu eu hysbysu am farwolaeth dyn 90 mlwydd oed yn Ysbyty Singleton ar 6 Medi 2014.

"Mae'r farwolaeth yn cael ei harchwilio ar ran Crwner Ei Mawrhydi."