Carwyn Jones yn poeni am ddyfodol y DU

carwyn jones

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn pryderu bydd y Deyrnas Unedig wedi chwalu o fewn y 10 mlynedd nesaf oherwydd ymateb Llywodraeth y DU i'r bleidlais Na yn yr Alban.

Mae Mr Jones wedi cyhuddo'r prif weinidog o "botsio" o amgylch yr ymylon.

"Os nad oes neb yn dysgu'r wers o'r hyn ddigwyddodd yn yr Alban, ni fydd gennym Deyrnas Unedig ymhen blynyddoedd i ddod," meddai Mr Jones wrth raglen Week In Week Out.

Yn y cyfamser, daeth pôl ar ran BBC Cymru i'r canlyniad fod 60% o bobl yng Nghymru yn dymuno gweld plismona yn cael ei ddatganoli, a bod 56% o blaid datganoli rhai budd-daliadau lles.

Siaradodd Mr Jones am ei rwystredigaeth gyda Llywodraeth y DU, sydd am drafod y mater o ddatganoli pwerau o fewn i'r DU drwy law is-bwyllgor y Cabinet yn hytrach na chonfensiwn cenedlaethol lle mae'r holl lywodraethau datganoledig yn y DU yn eistedd o amgylch un bwrdd.

"Os nad ydynt yn mynd i wneud hyn yn iawn yn y dyfodol - gallwn weld yr Albanwyr yn dod yn ôl, yn anhapus iawn," meddai.

"Er mwyn osgoi hyn i gyd ac i sicrhau dyfodol y DU, mae angen i ni gael cyfansoddiad priodol ar gyfer y canrifoedd nesaf a gweithio allan lle mae'r pwerau i fod.

"Os nad yw'n cael ei wneud yn iawn, dwi'n ofni y bydd yr Alban yn gofyn am refferendwm arall a gall y canlyniad fod yn wahanol bryd hynny. Dyna'r wers sydd angen i'r sefydliad ei ddysgu."

Treth incwm

Mae'r arolwg barn gan ICM a gomisiynwyd gan BBC Cymru yn awgrymu fod cefnogaeth i lywodraeth Cymru osod treth incwm yng Nghymru.

Fe ddarganfuwyd yn yr arolwg fod 46% o blaid a 37% yn erbyn y syniad.

Mae prif weinidog Cymru wedi mynnu bod angen mynd i'r afael â than-ariannu Cymru cyn eu bod yn trafod pwerau treth incwm.

Mae Cymru'n derbyn arian gan San Steffan yn unol â'r boblogaeth drwy fformiwla Barnett.

Ond mae gwleidyddion yn honni fod y fformiwla yma yn or-hael i'r Alban a bod Cymru'n derbyn £300m y flwyddyn yn llai nag y dylai.

Yn gynharach yn yr wythnos, fe wnaeth Mr Jones alw am "DU newydd gyda hunaniaethau cryf ei gwledydd yn cael eu cydnabod o fewn yr undeb".

Ofn datganoli pwerau trethu

Ar y mater o ddatganoli pwerau treth, dywedodd yr economegydd Gerry Holtham wrth raglen Week In Week Out ei fod yn credu bod gweinidogion ym Mae Caerdydd wedi bod yn amharod i gynnwys pwerau codi trethi oherwydd eu bod yn ofni gwneud hynny.

"Ofn a phryder y bydd mwy o'u hincwm yn dibynnu ar economi Cymru a llai ar grant bloc o Loegr," meddai.

"Mae grant bloc yn dod i mewn, nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth.

"Os yw refeniw yn dibynnu ar economi Cymru ac mae'n arafu, bydd gennych lai o arian, felly rwyf yn meddwl bod rhywfaint o bryder ynghylch hynny, mae hynny'n risg, felly pam gwneud hynny?"

Gwadodd Mr Jones hyn, gan ddweud nad oedd unrhyw bwynt ymgymryd â phwerau codi trethi cyn i'r fformiwla ariannu gael ei datrys.

Yn yr arolwg, gofynnwyd i bleidleiswyr hefyd a ddylai ASau Cymru gael eu hatal rhag pleidleisio yn San Steffan ar faterion sydd ond yn effeithio ar Loegr.

Roedd cyfanswm o 44% yn cytuno ond roedd 41% yn anghytuno - gan awgrymu fod cais y Prif Weinidog David Cameron i gyflwyno hyn wedi rhannu barn gyhoeddus.

Mae'r un arolwg wedi awgrymu fod cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru wedi gostwng i'w lefel isaf a gofnodwyd yn sgil y refferendwm yr Alban.

Holodd ICM Research sampl ar hap o 1,006 o oedolion 18+ dros y ffôn ar 19eg-22ain Medi 2014. Cynhaliwyd cyfweliadau ar draws Cymru ac mae'r canlyniadau wedi eu pwysoli i broffil yr holl oedolion. Mae ICM yn aelod o'r Cyngor Pôlio Prydeinig ac mae'n cydymffurfio a'i reolau.

Straeon perthnasol