Miliband i ystyried 'anawsterau' cyllid Cymru

Ed Miliband

Mae arweinydd y blaid Lafur, Ed Miliband wedi gaddo "edrych ar" yr "anawsterau" cyllido y mae Llywodraeth Cymru yn ei wynebu, os yw'n ennill pŵer yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.

Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, mae Cymru yn methu allan ar £300m y flwyddyn dan fformiwla Barnett - y system sy'n rhannu arian i lywodraethau datganoledig y DU.

Dywedodd Mr Miliband y byddai'r fformiwla yn parhau ond y byddai adolygiad o wariant yn ystyried y "materion penodol" yng Nghymru.

Ychwanegodd y dylid ystyried datganoli heddlua i Gymru.

'Materion penodol'

Roedd Mr Miliband, David Cameron a Nick Clegg i gyd wedi gaddo cadw Fformiwla Barnett, sy'n fwy hael i'r Alban, os oedd pleidlais Na yn Refferendwm Annibyniaeth yr Alban.

Ddydd Mercher, yng nghynhadledd Llafur ym Manceinion, dywedodd Mr Miliband wrth BBC Cymru bod "fformiwla Barnett wedi gwasanaethu yn dda".

"Rydw i'n deall y materion penodol sydd gan Gymru a byddwn ni'n sicr yn edrych ar rheiny," meddai.

"Felly bydd fformiwla Barnett yn aros ond byddwn yn sicr o edrych ar y materion penodol mae Cymru yn eu hwynebu."

'Pwerau yn ganiataol'

Wrth ystyried pwerau pellach i Gymru, dywedodd Mr Miliband ei fod am ddeddfu fel bod pwerau datganoli'n cael eu cymryd yn ganiataol, oni bai eu bod yn cael eu nodi'n wahanol. Dywedodd yr un peth ym mis Mawrth.

Cyfeirir at hyn fel system 'pwerau wrth gefn'.

Ychwanegodd: "Yn sicr mae'n gywir i edrych ar heddlua ac mae materion eraill yn ymwneud â phwerau benthyca.

"Felly dwi'n agored i hyn a'r peth pwysicaf yw ein bod ni'n mynd i gael confensiwn cyfansoddiadol i edrych ar yr holl faterion yma, ar draws y DU."

Wrth drafod y gwasanaeth iechyd, dywedodd Mr Miliband bod rhestrau aros wedi cyrraedd dwy flynedd o hyd dan y llywodraeth Geidwadol ddiwethaf.

"Wnawn ni ddim defnyddio'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru fel bwch dihangol sef yr hyn y mae David Cameron yn ceisio ei wneud," meddai.

Ychwanegodd nad oedd tystiolaeth i ddangos bod Cymru y tu ôl i weddill y DU, ond dywedodd bod "heriau mawr" yng Nghymru a bod Carwyn Jones a'r blaid yn benderfynol o fynd i'r afael gyda nhw.

Straeon perthnasol