UKIP yn barod i herio Llafur?

Nigel Farage

Mae UKIP yn prysur dyfu'n brif wrthblaid i Lafur yng Nghymru, yn ôl arweinydd y blaid Nigel Farage.

Mewn cyfweliad ar drothwy cynhadledd flynyddol y blaid yn Doncaster, dywedodd Mr Farage fod Cymru'n derbyn "setliad tila" gan lywodraeth Prydain.

Awgrymodd hefyd y dylid trosglwyddo mwy o bwerau i'r Cynulliad a bod y "genie datganoli allan o'r botel bellach".

Yn ôl pôl piniwn BBC Cymru'n gynharach yn yr wythnos, mae cefnogaeth i UKIP yng Nghymru bellach wedi cyrraedd 14%, dwbl y lefel mewn pôl tebyg ym mis Mawrth. Ond er gwaetha'r twf mewn cefnogaeth mae'n annhebygol y bydd y blaid yn ennill sedd yn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf.

"Mae gwleidyddiaeth yn newid yn gyflym iawn, iawn - mae 'mond rhaid i chi edrych ar y don o gefnogaeth i annibyniaeth yn yr Alban dros y misoedd diwethaf," dywedodd Mr Farage wrth BBC Cymru.

"Dwi hefyd yn meddwl os yw pobol yng Nghymru yn edrych ar y system addysg, y gwasanaeth iechyd ac yn gofyn i'w hunain pam ry ni'n cael ein trin yn waeth na gweddill Prydain... felly'r cwestiwn yw pwy all fod yn wrthblaid effeithiol i'r blaid Lafur, ac yn hanesyddol dwi'n meddwl taw'r Ceidwadwyr sy' wedi chwarae'r rôl honno, ond dwi'n meddwl fod peth tystiolaeth ein bod ni'n dechrau llenwi'r bwlch.

"Yn etholiadau Ewrop daethon ni'n gyntaf yn Merthyr Tydfil, er mwyn y nefoedd - rhywbeth na fydden i erioed wedi credu, felly mae'n anodd iawn darogan lle fyddwn ni ymhen saith mis."

'Setliad cyfansoddiadol newydd'

Llafur ddaeth yn gyntaf ar draws Cymru yn mis Mai o drwch blewyn, gan ennill 28.7% o'r bleidlais gyda UKIP yn ennill 28.1%.

UKIP ddaeth yn gyntaf yng Nghonwy, Dinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, gan ddanfon Nathan Gill i Frwsel fel un o 4 ASE Cymru.

Yn dilyn y bleidlais Na yn refferendwm yr Alban cysylltodd Mr Farage ag ASau o'r Alban yn galw arnynt i beidio â phleidleisio yn San Steffan ar faterion sy wedi'u datganoli i Holyrood. Ond dywedodd nad oedd e'n bwriadau gyrru llythyr tebyg i ASau o Gymru.

"Mae angen i ni gael sgwrs gydag ASau o Gymru ac o Ogledd Iwerddon, ond dwi'n meddwl taw'r flaenoriaeth yr wythnos ddiwethaf oedd i geisio sicrhau tegwch rhwng Lloegr a'r Alban, gan fod hynny ar feddwl pawb," meddai Mr Farage.

"Dwi am weld setliad cyfansoddiadol newydd i'r DU cyfan, ac mae hynny wrth gwrs yn cynnwys Cymru."

Galwodd Mr Farage hefyd am ddiwygio fformiwla Barnett - gan gytuno â'r Prif Weinidog Carwyn Jones fod Cymru wedi'i thanariannu ar hyn o bryd.

"Mae Cymru'n derbyn setliad tila - dwi ddim yn gwybod pwy sy wedi bod yn lobio ar ran Cymru dros y 40 mlynedd diwethaf ond dydyn nhw ddim wedi gwneud hynny mor effeithiol â'r Albanwyr, dyna'r gwir plaen.

"Gallwch chi ddadlau fod Cymru ymhell y tu ôl i'r Alban yn nhermau ariannu. Dwi'n credu o ddifrif fod angen trafodaeth agored ynglŷn â phob un dim er mwyn cael setliad cyfansoddiadol teg."