Marwolaeth: Oedi ar reilffordd

Arriva train Image copyright PA

Mae person wedi marw ar ôl cael ei daro gan drên ger Gorsaf Caerdydd Canolog.

Cafodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Heddlu'r De a'r Gwasanaeth Ambiwlans eu galw yno i gynorthwyo ond doedd dim modd ei achub.

O ganlyniad i'r digwyddiad roedd oedi o hyd at awr rhwng trenau yn teithio o Ben-y-bont ar Ogwr i Gaerdydd.

Mae'r trenau bellach yn rhedeg fel yr arfer.