Routledge yn ymestyn ei gytundeb gydag Abertawe

Wayne Routledge

Mae asgellwr Abertawe, Wayne Routledge wedi arwyddo estyniad o flwyddyn ar ei gytundeb gyda'r clwb.

Ymunodd y chwaraewr 29 oed gyda'r Elyrch o Newcastle yn 2011, a bydd yr estyniad yn ei gadw yn y Liberty tan 2018.

Dywedodd rheolwr Abertawe, Garry Monk, bod Routledge yn "cwbl haeddu" y cytundeb newydd.

"Mae e wedi darganfod cartref, rhywle y gall fod ei hun a dangos y chwaraewr yr ydyn ni'n ei weld bob wythnos."

Mae Routledge wedi dechrau pob un o gemau Abertawe yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn, gan sgorio yn y fuddugoliaeth 3-0 yn erbyn West Bromwich Albion ym mis Awst.

Cafodd Routledge dymor da'r llynedd hefyd, gan sgorio chwe gôl mewn 41 o gemau.