Cynhadledd i drafod gwella gofal dementia yn y Gymraeg

Pobl hyn

Mae angen gwneud mwy i sicrhau gofal dementia yn yr iaith Gymraeg, yn ôl athro ym maes gofal lliniarol.

Bydd pwysigrwydd yr iaith wrth drin dementia yn cael ei drafod ddydd Mercher, mewn cynhadledd arloesol yng ngogledd Cymru.

Cydlynydd y prosiect yw'r Athro Mari Lloyd-Williams, arbenigwraig ar ofal lliniarol ym Mhrifysgol Lerpwl, sy'n dweud bod gan yr iaith rôl hanfodol i'w chwarae wrth drin cleifion dementia, ond nad oes digon yn cael ei wneud i alluogi i hynny ddigwydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dadlau bod ganddyn nhw gynllun mewn grym i gryfhau gwasanaethau cyfrwng Cymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

'Cyfforddus yn eu mamiaith'

Y gynhadledd yn Llanelwy ddydd Mercher yw'r cyntaf o'i bath yn gwbl drwy'r Gymraeg.

Dywedodd yr Athro Lloyd-Williams bod disgwyl "pobl o wahanol haenau o'r gymuned i edrych ar sut allwn ni weithio hefo'n gilydd i wella ansawdd gofal i bobl hefo dementia drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg".

"Y broblem ydy fel ma' bobl gyda dementia...a phobl mewn oed beth bynnag eu cyflwr nhw, mae pobl yn teimlo yn fwy cyfforddus yn eu mamiaith, a'r peth ydy 'efo dementia, mae rhywun yn cadw'r sgiliau y maen nhw wedi eu dysgu pan yn blentyn, felly mae'r iaith Gymraeg, y mae rhywun 'di cal fel mamiaith, yn dal yna.

Image caption Roedd yr Athro Lloyd-Williams yn un o'r rhai sefydlodd ganolfan gofal dydd cymunedol yn wirfoddol i roi gwasanaeth Cymraeg i bobl hŷn

"Ond mae rhywun yn colli sgiliau o'r pethau maen nhw 'di dysgu, ac i ni fel Cymry mae'r rhan fwyaf ohonom ni wedi dysgu Saesneg - felly'r broblem ydy, dydy pobl ddim yn teimlo mor gyfforddus."

'Anwybyddu'r iaith'

Mae'r Dr Lloyd-Williams yn dweud nad oes digon yn cael ei wneud gan wasanaethau iechyd i sicrhau darpariaeth yn y Gymraeg.

"I ni yng Nghymru, 'de ni yma yn ein gwlad ein hunain, ond yn nogfen y Cynulliad - Dementia Strategy - yr unig sôn ydy'r pwynt olaf un am y Gymraeg. Dydy o ddim yn dderbyniol.

"Mae ganddo' ni rifau mawr o bobl mewn oed yn siarad Cymraeg, ac mae synnwyr cyffredin yn d'eud gan fod dementia yn digwydd i bobl mewn oed, mae 'na nifer o'r rheiny yn mynd i fod yn Gymry Cymraeg.

"Ac eto mae'r iaith Gymraeg yn cael ei hanwybyddu yn llwyr."

Ffigyrau Dementia

•Mae Cymdeithas Alzheimer's yn dweud y bydd 850,000 o bobl yn dioddef o Dementia yn y DU erbyn 2015.

•Maen nhw'n disgwyl i'r ffigwr gynyddu i dros 1m erbyn 2025.

•Y gred yw bod cost Dementia i'r DU dros £26 biliwn bob blwyddyn, ond mae llawer o ofalwyr yn gweithio yn wirfoddol i ofalu am aelodau teulu.

•Mae Dementia yn disgrifio sawl salwch sy'n atal yr ymennydd rhag gweithio yn gywir.

•Alzheimer's yw'r math mwyaf cyffredin, gan effeithio dros 60% o'r rheiny sydd â Dementia.

Gweithgareddau cymunedol

Yn y gynhadledd, bydd siaradwyr yn cynnwys gofalwyr, gwirfoddolwyr, cynrychiolwyr o'r sectorau tai ac iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a chwmni iaith.

Bydd pwyslais hefyd ar ddatblygu gweithgareddau cymunedol, i leihau dibyniaeth ar y gwasanaethau iechyd.

Yn ôl yr Athro Lloyd-Williams, mae enghreifftiau o bobl hŷn sy'n mynd i glinigau, ond yn methu cyfathrebu yn iawn yn Saesneg. Dywedodd ei bod yn deall nad yw'n bosib cael meddyg Cymraeg ym mhob clinig, ond bod 'na bethau bychain all unigolion a chymunedau eu gwneud i helpu.

"Ma' pobl sy'n sâl, dydyn nhw ddim yn gallu siarad lot na symud lot, ond ma' nhw'n clywed, ac os ma' nhw'n clywed rhywun yn siarad efo nhw yn eu mamiaith, mae'n gwneud gwahaniaeth i'r ffordd maen nhw'n ymdopi a hefyd mae'n gallu golygu bod nhw angen llai o gyffuriau.

"Maen nhw'n llai agitated, yn llai dryslyd. Felly dydyn nhw ddim angen gymaint o gyffuriau, felly mae 'na lot o elfennau i hyn sydd mor bwysig."

Cynllun i 'gryfhau'

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ganddyn nhw gynllun mewn lle i "gryfhau" gwasanaethau cyfrwng Cymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n ei gwneud hi'n flaenoriaeth i alluogi pobl ddefnyddio gwasanaethau yn eu hiaith gyntaf.

"Nid yw mynediad i wasanaethau iechyd a chymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg yn fater cydraddoldeb yn unig; gall hefyd fod yn hanfodol i asesiadau clinigol a thriniaeth," meddai'r llefarydd.

"Mae ein strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd yn cydnabod bod rhaid darparu gwasanaethau Cymraeg fel rhan gynhenid o ofal i bobl sydd â dementia."

Ychwanegodd bod y llywodraeth yn talu am linell gymorth cyfrwng Cymraeg i ddioddefwyr dementia.

Straeon perthnasol