Elfyn Llwyd: sylwadau am y Gymraeg yn 'ffiaidd'

law

Mae'r bargyfreithiwr ac AS Plaid Cymru Elfyn Llwyd wedi dweud bod sylwadau am y Gymraeg ar wefan y Law Society Gazette yn "wenwynig" a "ffiaidd".

Dywedodd ei fod "yn synnu" nad oedd "rheolaeth olygyddol dynnach" i rwystro'r fath sylwadau rhag cael eu cyhoeddi.

Mae BBC Cymru Fyw wedi gofyn i'r Law Gazette am ymateb.

Mae erthygl Catherine Baksi yn rhifyn diweddara'r cylchgrawn, sy'n cael ei ddosbarthu i holl aelodau Cymdeithas y Cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr, yn canolbwyntio ar ddatblygiad y Gymraeg o fewn y gyfraith.

Yn benodol, mae'n trafod cynlluniau'r awdurdod sy'n rheoleiddio cyfreithwyr, yr SRA, sydd ar hyn o bryd yn ceisio barn ynghylch rhoi'r un hawliau i'r Gymraeg a'r Saesneg yng Nghymru.

Mae nifer o sylwadau wedi eu cyhoeddi gan ddarllenwyr yn ymateb i'r erthygl.

Yn eu mysg mae rhai yn cwestiynu datblygiad y Gymraeg ym myd y gyfraith.

'Yn amau'

Dywedodd un cyfrannwr: "Ryw'n amau a oes unrhyw siaradwyr Cymraeg yn bodoli yn y wlad, heb sôn am unrhyw gyfreithwyr Cymraeg."

"Saesneg", meddai un, oedd "iaith frodorol y rhan fwya o bobl yng Nghymru, ac ar gyfer y rhai nad yw'n iaith gynta', mae'n hanfodol oni bai bod pobl am i'w plant dreulio eu bywyd cyfan mewn ardal fewnblyg Gymraeg."

"Mewn amgylchedd lle oedd pobl yn gwrthod integreiddio", meddai un arall, "roedd yn creu sefyllfa o aflonyddwch cymdeithasol ac o bosib derfysgaeth."

Image caption Roedd y bargyfreithiwr Elfyn Llwyd AS yn meddwl fod agweddau 'ffiaidd' tuag at y Gymraeg wedi diflanu.

"Ac eto yng Nghymru," meddai, "mae rhan o'r boblogaeth, sy'n gwrthod integreiddio... ac yn parhau i fod yn elyniaethus i unrhyw ymgais i fod yn Brydeinig ond... nid ydyn nhw'n gwrthod cymorth ariannol y mae pobl Lloegr yn barod i roi iddyn nhw."

'Rhoi stop'

Dywedodd un fod nifer fawr o swyddi sector cyhoeddus yn cael eu cadw ar gyfer pobl ddwyieithog mewn rhannau lle oedd y Gymraeg yn cael ei chlywed yn rhannol.

"Dylid rhoi stop ar yr arferiad hwn. Pam y dylai siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd lle nad oes cymaint ohonyn nhw gael yr hawl i siarad Cymraeg gyda chyrff cyhoeddus?

"Nid oes gan siaradwyr Pwyleg, Punjabi, Hindi na Hebraeg yr hawl mewn ardaloedd lle mae nifer o siaradwyr."

Dywedodd Elfyn Llwyd: "Os mai cyfreithwyr sydd wedi gwneud y sylwadau ffiaidd yma, maen nhw'n amhroffesiynol iawn ac mae angen iddyn nhw feddwl cyn agor eu cegau.

"Roeddwn yn meddwl fod y fath wenwyn ac atgasedd at y Gymraeg wedi hen fynd. Dwi'n siomedig iawn fod y ffasiwn beth yn dal i gael ei goleddu gan unrhyw un."

'Cywilyddus'

Serch hynny, nid oedd holl sylwadau'r cylchgrawn yn negyddol.

Dywedodd un cyfrannwr: "Fel Sais sy'n credu mewn cyfiawnder mae rhai o'r sylwadau wedi fy nhramgwyddo... Mae'n gywilyddus."

"Gallai'r sylwadau arwain at drafferthion os ydyn nhw'n cael eu hanfon at y Comisiwn Cydraddoldeb."

Cysylltodd Cymru Fyw gyda'r Comisiynydd Cydraddoldeb ond yr ymateb oedd mai nid mater iddyn nhw oedd hyn ar hyn o bryd.

Dywedodd Neil Taylor, cyfreithiwr o'r Rhyl, fod rhai o'r sylwadau "yn ymylu ar fod yn hiliol.

"Mae'r iaith yn rhan o'n treftadaeth, mae'n rhodd yr ydym fel cenedl wedi ei hetifeddu. Mae pobl wedi brwydro am ddegawdau i'r Gymraeg gael y parch a'r gydnabyddiaeth mae'n ei haeddu…"

"… Sut y gall rhai sydd wedi gwneud gyrfa o ymladd yn erbyn anghyfiawnder ac o blaid cydraddoldeb gael agwedd fel hyn a cheisio dinistrio degawdau o ymgyrchu...?"

Gwrthododd Comisiynydd y Gymraeg a'r SRA gais i wneud unrhyw sylw ond dywedodd Mr Llwyd ei fod yn bwriadu ysgrifennu at yr SRA.