Canlyniadau Pro 12

Liam Williams gathers possession Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Liam Williams

Caeredin 20-Scarlets

Unwaith eto ar ôl bod ar y blaen bu'n rhaid i'r Scarlets fodoli ar gem gyfartal.

Ar un pryd roedd y Scartlets 10 pwynt ar y blaen, ond yn y diwedd ar ôl i Gaeredin fethu cic gosb yn yr eiliadau olaf roedd y tîm o Gymru yn ffodus o beido colli.

Aeth y Scarlets ar y blaen ar ôl munud o'r chwarae gyda chais Harry Robinson. Daeth ail gais diolch i waith cynorthwyol da gan Liam Williams, gyda Rhys Priestland yn ychwanegu 10 pwynt gyda'i esgid.

Ond tarodd Caeredin yn ôl gyda Tim Visser a Phil Burleigh yn croesi a Heathcote yn cicio 10 o bwyntiau.

Caeredin : Greig Tonks, Jack Cuthbert, Sam Beard, Andries Strauss, Tim Visser, Tom Heathcote, Sean Kennedy, Alasdair Dickinson, Ross Ford (cap ), John Andress, Anton Bresler, Ollie Atkins, Tomas Leonardi, Hamish Watson, Cornell Du Preez. Eilyddion: James Hilterbrand, Allan Dell, Willem Nel, Grant Gilchrist, Roddy Grant, Sam Hidalgo-Clyne, Phil Burleigh, Nick McLennan.

Scarlets; Liam Williams, Harry Robinson, Gareth Owen, Scott Williams (capt ), Michael Tagicakibau, Rhys Priestland, Aled Davies, Rob Evans, Emyr Phillips, Rhodri Jones, Jake Ball, Johan Snyman, Aaron Shingler, John Barclay, Rob McCusker. Eilyddion: Kirby Myhill, Phil John, Samson Lee, James Davies, Rory Pitman, Rhodri Williams, Steven Shingler, Adam Warren.

Leinster 37-23 Gleision

Er gwaethaf i'r Gleision daro yn ôl fe lwyddodd Leinster i sicrhau pwynt bonws yn eu buddugoliaeth gartref.

Rhys Ruddock oedd y cyntaf i groesi'r llinell i Leinster, gyda Mick McGrath a Gordon D'Arcy yn ymestyn y fantais i 27-9 erbyn yr egwyl.

Cory Allen darodd nol i'r Gleision, gyda chais Sam Warburton yn rhoi gobaith i'r Cymry a ddaeth o fewn pedwar pwynt

Ond fe wnaeth cic gosb Ian Madigan a chais Luke McGrath selio'r fuddugoliaeth.

Leinster: Rob Kearney; Fergus McFadden, Gordon D'Arcy, Ian Madigan, Darragh Fanning; Jimmy Gopperth, Eoin Reddan; Michael Bent, Sean Cronin, Marty Moore; Devin Toner, Kane Douglas; Rhys Ruddock, Dominic Ryan, Jamie Heaslip (capt).

Eilyddion: Bryan Byrne, Ed Byrne, Tadhg Furlong, Mike McCarthy, Jack Conan, Luke McGrath, Steve Crosbie, Mick McGrath.

Gleision: Rhys Patchell, Alex Cuthbert, Cory Allen, Dafydd Hewitt, George Watkins, Gareth Davies, Lewis Jones; Gethin Jenkins, Kristian Dacey, Adam Jones, Jarrad Hoeata, Chris Dicomidis, Josh Turnbull, Sam Warburton, Josh Navidi (capt)

Eilyddion: Matthew Rees, Sam Hobbs, Taufa'ao Filise, Macauley Cook, Manoa Vosawai, Tavis Knoyle, Adam Thomas, Dan Fish