UKIP i herio Llafur yn y cymoedd

Image caption Fe ddaeth UKIP yn ail i'r Blaid Lafur yn yr etholiadau Ewropeaidd diweddar.

Mae llefarydd UKIP yng Nghymru wedi dweud bydd ei blaid yn herio Llafur yn eu cadarnleoedd yng nghymoedd y de.

Yn ôl yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Nathan Gill, bydd ymgyrch ei blaid yn cynnwys agor cangen newydd yng nghymoedd y Rhondda.

Yn ôl Mr Gill "Dyw Llafur ddim bellach yn cynrychioli'r bobl ar strydoedd Cymru".

Hawliodd fod agweddau yng Nghymru yn newid ac roedd llwyddiant UKIP yng nghymoedd y de yn yr etholiadau Ewropeaidd yn arwydd o hynny.

Fe ddaeth UKIP yn ail yn yr etholiadau Ewropeaidd yng Nghymru, gan hawlio dros 27% o'r bleidlais.

Dywedodd Nathan Gill "Mae'r Blaid Lafur wedi cymryd Cymru a phobl Cymru yn ganiataol.

"Mae Merthyr Tudful, fel sawl tref a dinas arall yng Nghymru, wedi deffro i'r ffaith ar ôl 114 mlynedd, 6 Prif Weinidog, 15 mlynedd o reolaeth gan Lafur yng Nghymru, nad yw Llafur bellach yn cynrychioli'r dyn neu'r wraig ar y stryd."

Mewn araith fu'n adleisio sylwadau diweddar ei arweinydd Nigel Farage, hawliodd Mr Gill fod polisïau economaidd ac addysg Llafur wedi methu. Ac fe ddywedodd fod Llafur wedi gwanhau'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Yn gynharach fe ddywedodd Nigel Farage fod UKIP yn obeithiol y gallai ei blaid gystadlu o ddifri' ac ennill seddi yng Nghymru pan ddaw'r etholiad cyffredinol yn 2015.