Cwpan Ryder: Ewrop 10 UDA 6

Ryder Cup Image copyright Getty Images
Image caption Jamie Donaldson yn dathlu ei ail fuddugoliaeth

Mae gan Ewrop fantais o bedwar pwynt ar ddiwedd ail ddiwrnod yr ornest fawr yn Gleneagles.

Brynhawn Sadwrn roedd y Cymro Jamie Donaldson yng nghanol y frwydr wrth iddo a'i bartner Lee Westwood drechu Zach Johnson a Matt Kuchar 2&1.

Yn y bore fe wnaeth Donaldson a Westwood golli wrth i'r Americanwyr frwydro yn ôl, ond roedd eu canlyniad yn y prynhawn yn hwb enfawr i obeithion Ewrop.

Dydd Sul bydd y cystadlu unigol yn dechrau - gydag Ewrop yn chwilio am bedwar pwynt arall i adennill Cwpan Ryder.