Swyddi cacennau newydd

Cacennau
Image caption Mae'r cacennau yma yn cael eu cynhyrchu ar ystâd ddiwydiannol y Bala

Mae cynnydd diweddar mewn archebion cacennau wedi creu 30 o swyddi yn y Bala.

Mae Cake Crew yn cyflogi tua 130 ar hyn o bryd ac yn un o gyflogwyr mwyaf yr ardal gan gyflenwi cacennau i tua 1,000 o archfarchnadoedd.

Dywedodd Alice Davies o'r cwmni "Da ni yn edrych am 30 o staff, 'da ni yn datblygu lot o gynnyrch newydd a 'da ni yn trio cael mwy o staff.

"Mae yna alw mawr am fwy o staff."

Yn ôl un o gynghorwyr tref Y Bala, Dorothy Evans, mae gwaith ar gyfer pobl ifanc yn bwysig mewn ardal wledig fel Y Bala.

"Mae'n bwysig iawn , does dim llawer o gyfleoedd gwaith i bobl ifanc yma ac mae'n gyfle i bobl ddatblygu sgiliau".

Deellir fod y swyddi newydd yn rhai dros dro, tan ddiwedd y flwyddyn, ond mae'r cwmni yn gobeithio sicrhau gwaith mwy parhaol i'w gweithwyr newydd.