Marwolaeth Dannie Abse

absie
Image caption Dannie Abse 1923-2014

Bu farw Dannie Abse, un o feirdd ac awduron enwocaf Cymru, yn 91 oed.

Cafodd eni yng Nghaerdydd yn yr 1920au ac fe ddatblygodd enw fel un o hoff feirdd Cymru.

Roedd ganddo arddull poblogaidd ac roedd ei waith yn cyfleu llawer o agweddau o fywyd yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif - gan gynnwys ei brofiadau fel dyn ifanc Iddewig yng Nghymru.

Bu'n byw yng Nghaerdydd, Llundain ac Ogwr ac fe adeiladodd yrfa lenyddol o bwys fel awdur 16 o gyfrolau o farddoniaeth. Roedd ganddo yrfa lwyddianus arall hefyd - fe gyfunodd ei ysgrifennu â'i waith fel meddyg.

Cafodd ei nofel olaf "The Strange Case of Dr Simmonds & Dr Glas" ei enwebu yn 2002 ar gyfer Gwobr Booker.

Yn 2008 Dannie Abse oedd enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru am ei lyfr "The Presence."

Roedd yn frawd i'r Aelod Seneddol Leo Abse.

Mae Dannie Abse yn cael ei ystyried fel un o awduron mwyaf talentog a dylanwadol Cymru.