Cameron: Targedu seddi yng Nghymru

David Cameron Image copyright Reuters
Image caption Cameron: Y Ceidwadwyr yn targedu Gŵyr, Dyffryn Clwyd a Brycheiniog a Maesyfed.

Dywedodd y prif weinidog David Cameron wrth gynadleddwyr ei blaid yn Birmingham y bydd y Ceidwadwyr yn targedu seddi Gŵyr, Dyffryn Clwyd a Brycheiniog a Maesyfed yn yr etholiad cyffredinol.

Roedd Mr Cameron yn areithio mewn cyfarfod preifat o Geidwadwyr Cymreig ddydd Sul.

Mae yna 22 o flynyddoedd ers i'r Ceidwadwyr gynrychioli Brycheiniog a Maesyfed.

Dyw'r blaid erioed wedi llwyddo i gipio Gŵyr na Dyffryn Clwyd.

Roedd cyn Ysgrifennydd Cymru ac arweinydd Tŷ'r Cyffredin William Hague hefyd yn y cyfarfod.

"Fel mae'r prif weinidog wedi dweud, mae Dyffryn Clwyd, Brycheiniog a Maesyfed a Gŵyr, mae'r rhain yn lleoedd rydym am ganolbwyntio arnynt," meddai Mr Hague.

"Rwyf am i chi wybod, nawr fy mod wedi rhoi'r gorau i fod yn Ysgrifennydd Tramor, y byddaf yn dod ac ymgyrchu a'ch helpu cyn yr etholid cyffredinol. "