Hofrennydd yn achub dyn

Gogarth bay Image copyright david medcalf
Image caption Roedd y dyn wedi bod yn neidio oddi ar glogwyni

Aed â dyn i'r ysbyty mewn hofrennydd ddydd Sul ar ôl iddo syrthio oddi ar glogwyn yn Sir Fôn.

Roedd y dyn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau oedd yn cynnwys dringo, neidio oddi ar glogwyni i'r môr a nofio.

Roedd y dyn yn ei 20aum oedd yn dod o Stirling, Yr Alban wedi torri ei goes.

Aed ag ef i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Aeth i drafferthion ym Mae Gogarth, ger Caergybi