Ramsey ddim ar gael i Gymru

Aaron Ramsey Image copyright Getty Images
Image caption Mae Aaron Ramsey wedi anafu llinyn y gar

Fydd Aaron Ramsey ddim ar gael i wynebu Bosnia-Herzegovina na Chyprus yng Nghaerdydd oherwydd anaf.

Mae disgwyl y bydd y chwaraewr canol cae 23 oed allan am fis ar ôl anafu llinyn y gar yn y gêm yn erbyn Tottenham ddydd Sul.

Bydd Cymru'n croesawu Bosnia-Herzegovina i Stadiwm Dinas Caerdydd ar 10 Hydref, ac yna Cyprus i'r un stadiwm dridiau'n ddiweddarach.

Mae'r rheolwr Chris Coleman hefyd yn aros am newyddion ynglŷn â Joe Allen cyn y ddwy gêm nesa' yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2016.

Dyw Allen, 24, heb chwarae ers iddo anafu ei ben-glin ym muddugoliaeth Cymru oddi cartref yn Andorra ar Fedi 9.