Y Gyllideb: Cytundeb dwy flynedd

Black a Williams
Image caption Yr AC Peter Black ac Arweinydd y blaid Kirsty Williams yn cyhoeddi'r fargen

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi taro bargen gyda Llafur fydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i basio'i chyllideb ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.

Gwerth y fargen yw £223 miliwn dros gyfnod o ddwy flynedd ac mae'n cynnwys arian er budd mentrau i bobl ifanc ac addewid i beidio dechrau adeiladu ffordd liniaru'r M4 cyn yr etholiad Cynulliad nesaf.

Yn ôl Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams, mi fydd y cytundeb o fudd i 70,000 o blant.

Dywedodd: "Mi wnaiff ein cyhoeddiad heddiw eu helpu nhw i gael dechrau gwell mewn bywyd."

Bydd y blaid yn ymatal eu pleidlais ar y gyllideb eleni a'r flwyddyn nesaf, fydd yn galluogi'r llywodraeth i ennill y bleidlais.

Arian i ddisgyblion

Mi fydd peth o'r arian yn mynd tuag at y Grant Amddifadedd Disgyblion - un o brif bolisïau plaid Ms Williams.

Bydd maint y grant yn cael ei gynyddu i £1,050 yn 2015/16 ac i £1,150 yn y flwyddyn ganlynol ac mi fydd yn cael ei ehangu i gynnwys plant dan 5 oed am y tro cynta'.

Mi fydd y cytundeb hefyd yn arwain at adeiladu ffordd newydd yn nwyrain y Bae, fydd yn cysylltu'r Bae gyda'r A48 yn Nhremorfa.

Cafodd y syniad ei gyflwyno gyntaf yn y 1990au fel ffordd i adfywio'r ardal, ond cafodd ei roi o'r neilltu gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, John Redwood.

Mae disgwyl y bydd y gwaith yn dechrau yn 2015 neu 2016.

Hefyd yn rhan o'r cytundeb mae'r ymrwymiadau canlynol:

  • £10m ar fenter drafnidiaeth yn y gogledd, gyda'r manylion i'w penderfynu yn hwyrach;
  • £5.3m ar Ysbyty Llandrindod;
  • £15m ar drafnidiaeth ratach i bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed;
  • Arian ar gyfer creu 5,000 o brentisiaethau newydd;
  • Arian tuag at ddarparu gofal plant i rieni sy'n fyfyrwyr addysg bellach.

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Kirsty Williams: "Mae'r fargen yn adlewyrchu buddsoddiad sylweddol i'n hysgolion gan gynnig hwb anferth i economi Cymru.

"Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi ymrwymo i roi dechrau tecach i bob plentyn, beth bynnag yw eu cefndir."

Ychwanegodd: "Mae'n ffaith ofnadwy bod disgyblion tlotaf Cymru ar ei hôl hi pan maen nhw ond yn bump oed. Am y rheswm yna rwy'n ofnadwy o falch fod menter ein plaid wedi cael ei ymestyn i gynnwys disgyblion meithrin.

"Rydym wedi dangos bod y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn parhau i fod yn blaid addysg."

Plaid Cymru yn gwrthod trafod

Y flwyddyn ddiwethaf roedd Plaid Cymru yn rhan o'r fargen gafodd ei tharo ynghylch y gyllideb, ond y flwyddyn hon mi benderfynodd beidio â chymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau.

Dywedodd eu llefarydd cyllid, Alun Ffred Jones: "Fe dynnon ni allan o unrhyw drafodaethau potensial oherwydd bod y llywodraeth wedi penderfynu ar eu liwt eu hunain, heb ymgynghori 'efo neb, heb ddisgwyl am adroddiad pwyllgor, i wario biliwn o bunne ar un darn o'r M4.

"Ma' hwnnw'n mynd i gael effaith ddifrifol ar gynlluniau eraill ledled Cymru am flynyddoedd i ddod, Os nad oedd y llywodraeth yn fodlon trafod hynny neu siarad am hynny efo nid oedd dim disgwyl i ni wedyn fynd i drafod y gyllideb a'i oblygiade.

"Felly dwi'n credu bod gennym ni ddim dewis."