Môn yn gwrthod uno â Gwynedd

Pencadlys Cyngor Môn

Ddydd Mawrth, fe wrthododd cynghorwyr ar Ynys Môn gynlluniau i uno'n wirfoddol â Chyngor Gwynedd.

Mewn cyfarfod o'r cyngor llawn, fe bleidleisiodd aelodau yn erbyn cynigion wrth ymateb i ymgynghoriad llywodraeth Cymru ar adolygu llywodraeth leol i'r dyfodol.

Bwriad Comisiwn Williams yw cwtogi nifer awdurdodau lleol Cymru o 22 i 10 neu 12 awdurdod newydd.

Mae llywodraeth Cymru wedi gofyn am fynegiadau o ddiddordeb mewn uno gwirfoddol, cyn cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth fyddai'n ymrwymo, erbyn diwedd Tachwedd.

'Effaith andwyol'

Mewn datganiad bnawn Mawrth fe ddywedodd llefarydd "nad yw Môn, fodd bynnag, yn bwriadu uno'n wirfoddol gydag aelodau'n gryf o'r farn y byddai'n cael effaith andwyol ar drigolion Ynys o safbwynt darparu gwasanaethau; democratiaeth ac atebolrwydd yn lleol; effaith ar yr economi leol a lefelau Treth Gyngor."

Ychwanegodd arweinydd y Cyngor, Ieuan Williams, "Dydw i ddim wedi fy argyhoeddi bod manteision i uno ac yn sicr ni fydd yn ateb i'r toriadau ariannol enfawr gaiff ei wynebu gan gynghorau ar hyd a lled Cymru."

"Mae awdurdodau lleol yng Nghymru eisoes yn wynebu toriadau yn y gyllideb sydd heb gynsail, gyda Môn yn gorfod arbed hyd at £20 miliwn dros y pedair blynedd nesaf.

Dyw Llywodraeth Cymru heb ddweud wrthym eto beth fydd y gost o ddiwygio llywodraeth leol - mae rhai'n amcangyfrif y bydd rhwng £100m a £200m - neu o le ddaw'r arian i dalu amdano."

Cyfarfod brys?

Cytunodd y Cyngor hefyd i ofyn am gyfarfod brys gyda'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus newydd, Leighton Andrews AC, er mwyn deall mwy am y broses uno; ymgysylltu â'r gymuned er mwyn derbyn barn trigolion Môn ar uno posib; ac awdurdodi'r Prif Weithredwr a'r Arweinydd i barhau deialog mewn perthynas â chydweithio ar lefel ranbarthol a chenedlaethol ac adrodd yn ôl i'r Cyngor.

Roedd Arweinydd Grŵp Plaid Cymru, y Cyng Bob Parry, ac Arweinydd y Grŵp Llafur, y Cyng Arwel Roberts, o blaid Ynys Môn yn aros fel awdurdod annibynnol.

Straeon perthnasol