Drws trên 'wedi ei rwygo ar agor' mewn twnel ym Mangor

Eluned Parrott
Image caption Fe ddangosodd Eluned Parrott AC lun o'r trên yn siambr y cynulliad

Mae 'na ymchwiliad ar droed wedi i ddrws trên "rwygo ar agor" wrth iddo deithio drwy dwnel yng Ngwynedd.

Chafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad ar y gwasanaeth 0533 o Gaergybi i Gaerdydd ddydd Llun.

Fe ddigwyddodd y difrod mewn twnel wrth i'r trên adael Bangor toc wedi chwech.

Fe ddywedodd Trenau Arriva Cymru fod "ymchwiliad manwl" wedi ei lansio.

Mae Bwrdd Ymchwilio Damweiniau'r RAIB wedi cael gwybod am y digwyddiad, hefyd.

Yn ôl Trenau Arriva Cymru, fe ddaeth i'r amlwg fod drws ar goll ym Mhenmaenmawr.

Fe gafodd teithwyr eu symud i gefn y trên, a chafodd rhan o'r trên ei gloi cyn i'r gwasanaeth ddod i ben yng Nghyffordd Llandudno.

'Trenau gorlawn'

Yn siambr y cynulliad ddydd Mawrth, fe alwodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar drafnidiaeth, Eluned Parrott ar i lywodraeth Cymru adolygu diogelwch cerbydau trenau.

"Pe byddai teithwyr neu aelodau o staff yn sefyll yn yr ardal pan ddigwyddodd hyn - sefyllfa gyffredin ar ein trenau gorlawn - byddai'r goblygiadau wedi bod llawer yn waeth," meddai.

Fe ymatebodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, gan ddweud nad yw pwerau ar stoc rheilffyrdd wedi eu datganoli.

Ond fe gytunodd Ms Hutt fod hwn yn "ddigwyddiad difrifol", sydd angen tynnu sylw Adran Drafnidiaeth llywodraeth San Steffan ato.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.