Wrecsam 1-0 Kidderminster

Roedd hi'n ddi-sgôr hyd deng munud ola'r gêm rhwng Wrecsam a Kidderminster ar y Cae Ras nos Fawrth.

Ond daeth Elliott Durrell i'r adwy i sgorio i'r Dreigiau wedi 84 munud.

Diolch i'r triphwynt, mae Wrecsam yn y trydydd safle yn y Gyngres.