Joe Allen: Methu gemau rhagbrofol Ewro 2016 Cymru

Joe Allen Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Tydi Joe Allen heb chwarae i Lerpwl ers iddo anafu ei ben-glin yn ystod buddugoliaeth Cymru yn Andorra.

Ni fydd Joe Allen yn gallu chwarae i Gymru yng ngemau rhagbrofol Ewro 2016 oherwydd anaf i'w ben-glin.

Bydd chwaraewr canol cae Lerpwl yn methu'r gemau rhagbrofol yn erbyn Bosnia-Herzegovina a Cyprus yng Nghaerdydd.

Tydi Allen, 24 oed, heb chwarae i Lerpwl ers iddo anafu ei ben-glin yn ystod buddugoliaeth Cymru oddi cartref yn Andorra ar 9 Medi.

Y gred yw bod y chwaraewr wedi cael llawdriniaeth torgest (hernia) dwbl ers hynny.

Cur pen pellach

Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman, wedi dweud y bydd yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer y gemau yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Mercher.

Hyd yn oed pe bai Joe Allen yn cael ei enwi yn y garfan, mae hi'n hynod annhebygol y bydd yn chwarae yn unrhyw un o'r ddwy gêm.

Mae gan Gymru ddwy gêm gartref yn olynol, y gyntaf yn erbyn Bosnia-Herzegovina ar ddydd Gwener, 10 Hydref, a'r ail yn erbyn Cyprus dri diwrnod yn ddiweddarach.

Mae anaf Allen yn achosi cur pen pellach wedi'r cyhoeddiad na fydd Aaron Ramsey ar gael i chwarae i Gymru oherwydd anaf i linyn y gar.

Straeon perthnasol