Bwrdd iechyd yn torri rheolau iaith

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Image copyright Hywel Dda UHB

Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wedi beirniadu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mewn adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Mercher.

Daw'r adroddiad yn dilyn ymchwiliad i gŵyn gan riant bod nyrs ysgol ddi-Gymraeg wedi cynnal asesiad o blentyn 5 oed uniaith Gymraeg mewn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng Ngheredigion.

Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd ei " bod hi'n anodd tu hwnt recriwtio nyrsys ysgol Cymraeg eu hiaith ar hyd a lled Cymru" gan ychwanegu " er mawr ofid i ni, ni fu modd inni ddarparu nyrs ysgol Gymraeg i Blentyn A ym mis Medi 2013. "

"Hoffwn wneud yn glir mae ein bwriad, bob amser, yw darparu gwasanaeth nyrs ysgol Cymraeg, ond os nad yw hyn yn bosibl, mae dal yn ddyletswydd statudol arnom i ddarparu gwasanaeth. "

Gwasanaeth Cymraeg

Daeth ymchwiliad Comisiynydd y Gymraeg i'r casgliad fod y Bwrdd wedi mynd yn groes i'w cynllun iaith eu hunain drwy " beidio â chynllunio a threfnu gwasanaeth Cymraeg."

Roedd hynny yn ymwneud â chyflwyno gwasanaethau, staffio a recriwtio a monitro prosesau "er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r Cynllun Iaith."

Mae'r Comisiynydd yn gwneud tri argymhelliad

  • Rhoi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod nyrs ysgol Gymraeg ar gael i siaradwyr Cymraeg, a llunio gweithdrefn er mwyn sicrhau gwasanaeth Cymraeg pan fo sefyllfa o brinder yn bodoli;
  • Cynllunio ar gyfer hyfforddi, denu a recriwtio staff cymwys dwyieithog yn y gwasanaeth nyrsio i ysgolion;
  • Cynnal adolygiad o statws, rôl a chylch gorchwyl Grŵp Llywio a Monitro'r Iaith Gymraeg y Bwrdd Iechyd er mwyn sicrhau y creffir yn ddigonol ar weithrediad adran staffio a recriwtio'r cynllun iaith Gymraeg.

Mae amserlen benodol wedi ei gosod ar gyfer gweithredu'r argymhellion hyn. Bydd swyddogion y Comisiynydd yn monitro sut caiff yr argymhellion eu cyflawni.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Dymuna'r Bwrdd Iechyd Prifysgol ei gwneud hi'n glir ei fod yn cymryd ei gyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg o ddifrif a chredwn fod ein hadroddiadau blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg yn brawf o hyn.

"Y ffaith anffodus yw ei bod hi'n anodd tu hwnt recriwtio nyrsys ysgol Cymraeg eu hiaith ar hyd a lled Cymru ac er mawr ofid i ni, ni fu modd inni ddarparu nyrs ysgol Gymraeg i Blentyn A ym mis Medi 2013.

"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cymryd nifer o gamau rhagweithiol er mwyn cynyddu ein gallu dwyieithog o fewn y gwasanaeth nyrsio ysgol yn ardal Ceredigion. O ganlyniad mae 7 o bob 8 nyrs ysgol yng Ngheredigion yn medru'r Gymraeg erbyn hyn.

'Dyletswydd'

"Mae'r Bwrdd Iechyd Prifysgol hefyd wedi cyflogi nyrsys cyffredinol Cymraeg eu hiaith, sy'n cael eu cefnogi gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol i ennill cymhwyster Proffesiynol Nyrs Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPHN), bydd hyn hefyd yn cynyddu ein gallu dwyieithog o fewn yr ardal.

"Yn ychwanegol at hyn, rydym wedi cymryd camau pellach i adolygu anghenion iaith ein plant ac yn trefnu i blentyn neu riant y mae angen arnynt ddarpariaeth nyrs ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Erbyn hyn rydym wedi derbyn adroddiad archwiliad statudol a byddwn yn ystyried yr argymhellion a wnaed ac yn ymateb iddynt cyn gynted â phosibl.

"Hoffwn wneud yn glir mae ein bwriad, bob amser, yw darparu gwasanaeth nyrs ysgol Cymraeg, ond os nad yw hyn yn bosibl, mae dal yn ddyletswydd statudol arnom i ddarparu gwasanaeth.

"Rydym yn croesawu cefnogaeth Comisiynydd y Gymraeg i gydweithio â ni er mwyn goresgyn yr heriau yma yn y dyfodol."