BNP yn diarddel Nick Griffin

Nick Griffin Image copyright Getty Images
Image caption Fe gollodd Nick Griffin l ei sedd Ewropeaidd ym mis Mai

Mae'r BNP wedi diarddel eu cyn bennaeth Nick Griffin sy'n byw yn ardal y Trallwng.

Mewn datganiad dywedodd y blaid asgell dde eithafol fod Mr Griffin wedi ceisio ansefydlogi'r blaid, a'i fod hefyd wedi aflonyddu aelodau o'r blaid.

Fe wnaeth Mr Griffin drydar ei fod yn anghytuno gyda'r penderfyniad gan gyhuddo arweinwyr y blaid o chwarae "gemau gangsterwyr plastig"

Fe wnaeth Mr Griffin roi'r gorau i fod yn arweinydd ar ôl 15 mlynedd ym mis Gorffennaf.

Yn etholiadau mis Mai fe gollodd Mr Griffin ei sedd yn Senedd Ewrop.