Ludlow yw rheolwr newydd tîm pêl-droed merched Cymru

Jayne Ludlow Image copyright Getty Images

Mae cyn-gapten tîm pêl-droed merched Cymru, Jayne Ludlow, wedi ei phenodi'n rheolwr newydd ar y tîm cenedlaethol.

Mae Ludlow yn gweithio fel cyfarwyddwr pêl-droed merched Reading a rheolwr y tîm cyntaf.

Bydd yn aros yn y clwb tan i'w chytundeb ddod i ben ar ddiwedd mis Tachwedd 2014.

Bydd Ludlow, cafodd ei geni yn y Rhondda, yn olynu Jarmo Matikainen, sydd wedi dychwelyd i'r Ffindir wedi pedair blynedd lwyddiannus wrth y llyw gyda thimau merched Cymru.

Yn ystod ei gyrfa pêl-droed enillodd yr Uwchgynghrair naw gwaith, Cwpan FA y merched chwe gwaith a Chwpan UEFA gyda chlwb Arsenal yn 2007.

Roedd Ludlow wedi chwarae i glybiau merched Y Barri, Millwall a Southampton.

Sgoriodd 19 o goliau i Gymru mewn 61 ymddangosiad dros ei gwlad, cyn iddi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn 2012.

Roedd Cymru yn agos iawn at gyrraedd y gemau ailgyfle ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2015, ond collodd y tîm yn erbyn Wcráin yn eu gêm olaf yn y grwpiau.

Yn ogystal roedd Matikainen yn gyfrifol am oruchwylio'r bencampwriaeth UEFA cyntaf i'w chynnal yng Nghymru, rowndiau terfynol dan-19 y merched yn haf 2013.

Straeon perthnasol