Diddymu nod o 20 uchaf yn 'embaras'

Plant mewn dosbarth

Mae gwrthbleidiau'r Cynulliad wedi cyhuddo gweinidog addysg Llywodraeth Cymru o fod â ddiffyg uchelgais, wedi iddo gael gwared ar y targed i sicrhau bod Cymru ymysg y 20 o wledydd uchaf o ran perfformiad addysg erbyn y flwyddyn nesaf.

Erbyn hyn mae Huw Lewis eisiau cyrraedd y targed o 500 o bwyntiau erbyn 2021, gan ddweud ei fod yn fwy perthnasol i beth all athrawon anelu ato yn y dosbarth.

Mae'r Alban eisoes wedi sgorio dros 500 pwynt flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw'r penderfyniad yn 'embaras'.

Yng nghanlyniadau diwethaf profion rhyngwladol gwyddoniaeth, mathemateg a darllen Pisa ar gyfer ysgolion, roedd Cymru yn tua 40fed allan o 68.

Yn ogystal roedd Cymru wedi perfformio'n waeth na gweddill y DU gyda sgôr cyfartalog o 468.

'Prinder uchelgais'

Dywedodd Mr Lewis: "Os ydyn ni'n dweud wrth brifathro 'rydan ni angen bod yn y 20 uchaf', mae hi'n anodd iawn trosi hynny i sut y dylai eu disgyblion 15 oed wneud yn eu TGAU.

"Ond os ydyn ni'n dweud 'mae angen sgôr o 500' gallen nhw fesur eu cynnydd tuag at hynny".

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad Andrew RT Davies wedi dweud: "Mae hwn yn benderfyniad hynod sy'n pwysleisio prinder uchelgais Llafur ar gyfer addysg yng Nghymru.

"Mae'r gweinidog wedi rhoi saith mlynedd iddo'i hun i sicrhau mai Cymru yw'r wlad sy'n perfformio ail waethaf o ran addysg yn y DU'.

Dywedodd Mr Davies mai hwn oedd un o'r cyhoeddiadau "mwyaf digalon" mewn blynyddoedd diweddar.

Gwnaeth 500,000 o bobl ifanc 15 oed gymryd y profion Pisa mewn gwyddoniaeth, mathemateg a darllen a hynny ar draws 68 gwlad.

Er bod y canlyniadau ar gyfer Cymru yn debyg i'r rhai yn 2010, mae gwledydd eraill wedi perfformio'n well.

Targed 'cwbl wirion'

Dywedodd David Reynolds, athro mewn effeithlonrwydd addysg ym Mhrifysgol Southampton ac ymgynghorydd i lywodraeth Cymru, bod y targed newydd yn 'tua chywir'.

Roedd y targed gwreiddiol o orffen yn y 20 uchaf yn 'gwbl wirion' a doedd dim cydnabyddiaeth o ba mor anodd y byddai i gyflawni hyn, meddai.

Yn ôl yr Athro Reynolds: "Mi ddaeth yn amlwg bod y targed uchelgeisiol yn amhosibl i'w gyflawni. Ac mae'r dystiolaeth i gyd yn dangos os ydych chi'n ceisio gwneud rhywbeth sy'n amhosibl ei gyflawni, bydd hyn yn digaloni pobl yn hytrach na'u hysbrydoli."

"Bydd targed o 500 yn heriol - tydan ni heb sylweddoli yng Nghymru faint ar ei hôl hi ydan ni."

Dywedodd yr Athro Reynolds bod Cymru wedi bod yn "gwneud pethau gwallgof" fel rhoi'r gorau i gyhoeddi canlyniadau ysgolion wrth i bawb arall gychwyn gwneud hynny.

'Llawer o waith'

Mae'r profion Pisa yn cael eu trefnu gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).

Mae prif ddadansoddwr polisi'r mudiad, Beatriz Pont, a oedd hefyd yn un o awduron adroddiad ynglŷn â sut i wella ysgolion yng Nghymru yn gynharach eleni, wedi dweud bod "llawer o waith" eto i'w wneud i gyrraedd y targedau mathemateg.

Dywedodd wrth y BBC bod y targedau erbyn hyn yn llawer mwy 'realistig' gan edrych ar berfformiad yn y tymor hir, ond roedd yn parhau i fod yn heriol.

Yn ôl dirprwy brifathro Ysgol Friars ym Mangor, David Healy, sydd hefyd yn aelod o undeb Cymdeithas yr Athrawon a Darlithwyr: "Pa mor ddrwg yw pethau yng Nghymru, os mai ein huchelgais yw bod naw mlynedd tu ôl i Loegr a'r Alban erbyn 2021?"

Dywedodd wrth y BBC ei fod yn credu bod tanfuddsoddi yn broblem, a bod offer ac adnoddau yn ysgolion Lloegr "o wahanol safon".

Straeon perthnasol