Dynes 90 oed wedi marw yn dilyn lladrad yn ei chartref

Mae dynes 90-mlwydd-oed a gafodd ei chludo i'r ysbyty wedi wedi lladrad yn ei chartref yn St Christopher Drive, Cilâ, Abertawe, wedi marw yn yr ysbyty.

Galwyd yr Heddlu i gartref Mrs Jean Thyer am oddeutu 10:30 ddydd Llun 29 Medi.

Wedi i'r heddlu ddechrau ymchwilio i'r digwyddiad, daeth yn amlwg fod 'na ladrad wedi bod yn y tŷ, a chafodd llanc 15 oed ei arestio a'i gyhuddo o ladrata.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mark Kavanagh o CID Abertawe: "Mae ymchwiliad i amgylchiadau'r digwyddiad hwn yn parhau a bydd archwiliad Post Mortem yn cael ei wneud, rydym yn ymestyn ein cydymdeimlad â theulu Mrs Thyer ar yr adeg drist iawn."

Straeon perthnasol