Gŵyl i groesawu Eisteddfod yr Urdd i Gaerffili

Gwyl Caerffili

Mae torf o 3,000 o bobl wedi cymryd rhan mewn gorymdaith yng Nghaerffili ddydd Sadwrn, i groesawu Eisteddfod yr Urdd i'r ardal yn 2015.

Yn rhan o'r Ŵyl Gyhoeddi roedd gorymdaith o Ysgol Martin Sant i Gastell Caerffili dan arweiniad band Samba lleol.

Mae'r Eisteddfod yn denu tua 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, ond nid yw wedi ei chynnal yng Nghaerffili ers 1933.

Y tro diwethaf i'r Eisteddfod gael ei chynnal yn yr ardal oedd yn 1955, pan oedd hi yn Abertridwr.

Cyn yr Ŵyl, fe wnaeth Heledd Greenwood, swyddog datblygu'r Urdd yn rhanbarth Gwent, ddisgrifio digwyddiadau'r dydd wrth Cymru Fyw:

"Ddydd Sadwrn, mae'r orymdaith yn dechrau am 13:30, gan gerdded drwy strydoedd Caerffili - fydd i gyd ynghau - a mynd reit lawr trwy'r dre' ac i'r castell, ble bydd 'na bob math o weithgareddau.

"Mae 'na ddau lwyfan - un 'efo cymeriadau Cyw a Martin Geraint, a gweithgareddau i blant bach - a'r llwyfan arall gyda bandiau i ddenu'r bobl ifanc. Ar y llwyfan hwnnw, mi fydd 'na seremoni yn ystod y pnawn i groesawu'r Steddfod yn swyddogol i'r ardal a chyflwyno rhestr testunau 2015 i lywydd yr Urdd."

Image caption Daeth tua 3,000 o bobl i'r digwyddiad ddydd Sadwrn
Image copyright urdd
Image caption Mr Urdd oedd yn arwain yr orymdaith drwy'r dref

Mae disgyblion ysgolion yr ardal wedi cael her i lunio baner sy'n cynnwys delweddau o'u hysgol, yr ardal, yr Urdd neu gyfuniad o'r tri.

Mi fydd dylunwyr y faner sy'n cael ei barnu fel yr un orau yn cael gwobr o £500, sy'n cael ei rhoi gan noddwyr y gystadleuaeth Western Power Distribution.

Yn ôl Ms Greenwood mae codi arian ar gyfer cynnal yr eisteddfod yn "dipyn o her".

"'Da ni'n gorfod creu'r ymwybyddiaeth - ond ma' pethau'n dechrau mynd yn gynt. Mae criw o bobl ifanc yn gweithio'n galed o'r cychwyn i godi arian, ac mae 'na gyfres o bwyllgorau apêl ar draws y sir."

Dywedodd bod yr Urdd wedi gwneud ymdrech benodol i geisio cynnau diddordeb ymysg rhannau o gymdeithas sydd ddim â thraddodiad o gymryd rhan mewn digwyddiadau Cymraeg eu hiaith.

Image caption Roedd cyngerdd yng Nghaerffili nos Wener cyn y prif ddigwyddiad ddydd Sadwrn

'Ymateb gwych'

Meddai Ms Greenwood: "'Da ni wedi bod yn gweithio'n hynod o galed y tymor yma i roi cefnogaeth i'r ysgolion ail iaith - 'dyw llawer erioed wedi gwneud dim hefo'r Urdd o'r blaen, ond erbyn hyn ma' nhw'n dechre dangos diddordeb. Bydd lot yn dod ddydd Sadwrn ac maen nhw wedi dechrau holi o ran y cystadlu nawr hefyd.

"Da ni'n mynd i drefnu sesiynau hyfforddi i helpu'r athrawon i ddysgu dawnsio gwerin, ac yn y blaen. Pan oedd y 'steddfod yn Sir Benfro, ble roedd y sefyllfa'n eitha' tebyg, roeddan nhw wedi tynnu lot o ysgolion i mewn trwy gynhyrchu CD o bobl yn llefaru'r cerddi ail iaith.

"Does dim bob tro rhywun yn yr ysgolion hynny sy'n Gymraeg iaith gynta' - ac roedd hwnna'n gymaint o lwyddiant, bod ni wedi penderfynu gwneud rhywbeth tebyg.

"Unwaith roedd pobl yn dechra' deall, er enghraifft, be' sy'n digwydd ddydd Sadwrn, mae'r ymateb wedi bod yn wych. Busnesau bach eisiau mwy o wybodaeth ac ati.

"Mater o gyfathrebu ydy o - 'da ni wedi dechra' mynd i ddosbarthiadau oedolion ac ati. Ma' pobl yn bendant yn dangos diddordeb - ac ma' pawb yn dweud bod o'n mynd i fod yn safle gwych yn Llancaiach Fawr yn Nelson."