Zebre 14-15 Gweilch

Dan Biggar collides with Leonardo Sarto
Image caption Fe gafodd Biggar ei anafu mewn gwrthdrawiad â Leonardo Sarto

Mae record 100% y Gweilch i'r tymor Pro12 newydd yn parhau diolch i droed Sam Davies.

Doedd y gêm hon ddim mor hawdd ag oedd y gagendor rhwng safle'r ddau dîm yn y gynghrair yn ei awgrymu y gallai fod, gyda Zebre yn benderfynol o wneud pethau'n anodd i'r Cymry.

Giulio Bisegni gafodd y pwyntiau cyntaf yn Parma wrth i'w dîm wneud y mwyaf o ddryswch yn rhengau'r Gweilch yn dilyn anaf i Dan Biggar.

Roedd y cais yn un gwych iawn gan adael yr ymwelwyr wedi eu clwyfo gan ergyd ddwbl.

Honno oedd unig gais y gêm ac fe gafodd y mater ei setlo gan gicio. Fe fethodd Sam Davies bedair cic i gyd, ond roedd y pump aeth drosodd yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Roedd anaf Biggar yn edrych fel un cas ond nid oedd manylion pellach ar gael nos Wener.

Timau

Zebre: Hendrik Daniller; Giulio Toniolatti, Giulio Bisegni, Gonzalo Garcia, Leonardo Sarto; Luciano Orquera, Guglielmo Palazzani; Matias Aguero, Andrea Manici, Dario Chistolini, George Biagi, Marco Bortolami (capten), Mauro Bergamasco, Samuela Vunisa, Filippo Cristiano.

Eilyddion: Alberto Chillon, Kelly Haimona, Mirco Bergamasco.

Gweilch: Dan Evans; Jeff Hassler, Jonathan Spratt (capt), Josh Matavesi, Hanno Dirksen; Dan Biggar, Martin Roberts; Nicky Smith, Scott Baldwin, Dmitri Arhip, Lloyd Peers, Rynier Bernardo, Joe Bearman, Morgan Allen, James King.

Eilyddion: Sam Parry, Duncan Jones, Cai Griffiths, Alun Wyn Jones, Sam Lewis, Rhys Webb, Sam Davies, Andrew Bishop.