Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Mesur Cynllunio

Cynlluniau ynni
Image caption Gall y mesur olygu bod gan weinidogion fwy o bŵer dros ddatblygiadau ynni mawr yn y dyfodol

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi mesurau i geisio symleiddio a chyflymu'r broses gynllunio ddydd Llun.

Bydd y Mesur Cynllunio yn rhoi'r pŵer i Weinidogion benderfynu ar geisiadau cynllunio yn ymwneud â datblygiadau o "bwysigrwydd cenedlaethol" i Gymru - all gynnwys prosiectau ynni mawr.

Bydd hefyd yn ceisio sefydlu system gynllunio decach, fwy cyson ar draws awdurdodau cynllunio Cymru.

Mae'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant wedi dweud ei fod am weld newid yn y system, i "alluogi datblygiadau addas", yn hytrach na system sy'n rhoi rhwystrau i geisiadau cynllunio.

Daw'r newidiadau yn dilyn beirniadaeth bod y system gynllunio yn rhy gymhleth, rhy araf ac yn anghyson.

Yn ôl y llywodraeth, bydd y mesur yn "cryfhau a moderneiddio" y broses gynllunio, fel ei bod yn rhoi hwb i'r economi ac yn creu'r "tai, swyddi ac isadeiledd y mae Cymru ei hangen".

Maen nhw hefyd am gryfhau'r ffordd o orfodi pobl i ddilyn y canllawiau, os yw rheolau yn cael eu torri.

Pŵer i weinidogion

Image caption Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd y mesur yn creu'r "tai, swyddi ac isadeiledd y mae Cymru ei hangen"

Y disgwyl yw i'r mesur newydd roi mwy o gyfrifoldeb i weinidogion o fewn y system hefyd.

Pan gafodd y mesur drafft ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2013, roedd yn amlygu'r pwerau i weinidogion gyfarwyddo awdurdodau cynllunio lleol er mwyn gweithio gyda'i gilydd ar broblemau fel diffyg tir i godi tai.

Mae'n bosib y bydd gan weinidogion y pŵer i uno awdurdodau cynllunio hefyd.

Mae 25 o awdurdodau yng Nghymru - y 22 o gynghorau a thri awdurdod parc cenedlaethol.

Cafodd y mesur drafft ei feirniadu'n hallt gan ymgyrchwyr iaith, sy'n dweud nad yw'n cynnwys unrhyw ystyriaeth o'r Gymraeg.

Dywedodd y llywodraeth eu bod wedi cyhoeddi canllawiau sy'n sicrhau bod awdurdodau lleol yn ystyried yr iaith wrth lunio Cynlluniau Datblygiad Lleol.

Bydd y Mesur yn cael ei gyflwyno i'r Cynulliad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant, ac mae disgwyl iddo ddod yn gyfraith erbyn y flwyddyn nesaf.

Straeon perthnasol