Heddlu wedi eu galw i ddynes ar do adeilad yn Wrecsam

Co-operative in Rhostyllen Image copyright Google

Mae'r gwasanaethau brys wedi eu galw i Wrecsam lle roedd dynes wedi dringo ar do archfarchnad.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r adeilad ar Ffordd Wrecsam yn Rhostyllen, toc wedi 11:00, oherwydd pryder am ddiogelwch y ddynes.

Cafodd trafodwr arbenigol yr heddlu ei anfon i'r safle i siarad gyda'r ddynes, y mae'r heddlu yn credu sydd yn ei 20au.

Gyda chymorth y Gwasanaeth Tan ac Achub, cafodd y ddynes ei symud o'r to yn ddiogel a'i chludo i Ysbyty Maelor Wrecsam.

Dywedodd Uwch Arolygydd Heddlu'r Gogledd, Dave Roome: "Diogelwch y ddynes ac aelodau'r cyhoedd yn yr ardal oedd yn hollbwysig.

"Gyda chymorth ein partneriaid, cafodd y ddynes ei symud yn ddiogel o'r to."

Fe wnaeth llefarydd ar ran archfarchnad y Co-op gadarnhau bod y gwasanaethau brys wedi eu galw i ddigwyddiad yn Rhostyllen.

Er i'r ffordd gael ei chau am gyfnod, mae hi bellach wedi ail-agor.