Ymchwiliad: pinnau ar lwybr ras seiclo

Ras seiclo Image copyright Wales News Service
Image caption Cafodd dros 70 o gystadleuwyr eu heffeithio gan y pinnau yn ystod y ras

Mae ymchwiliad wedi dechrau ar ôl i gannoedd o binnau gael eu gadael ar lwybr seiclo, gan ddifrodi dros 70 o feiciau.

Cafodd y pinnau, oedd wedi eu paentio yn ddu, eu gollwng ar allt ger Nantymoel, Pen-y-Bont, yn agos i gornel dyn.

Roedd y beicwyr yn rasio ar gyflymder o hyd at 70 km yr awr yn ystod y digwyddiad.

Mae rhai oedd yn cystadlu wedi dweud y gall y pinnau fod wedi anafu rhywun yn ddifrifol.

'Niwed difrifol'

Dywedodd Richard Manning, 46, oedd yn seiclo: "Dwi'n gobeithio bod y rheiny sy'n gyfrifol yn cael eu dal a bod y gosb yn ddigon i atal eraill rhag gwneud hyn.

"Mae lle cafodd y pinnau eu rhoi, ar allt gyflym cyn cornel dyn, yn awgrymu bod y sabotwr yn gobeithio achosi niwed difrifol, neu hyd yn oed marwolaeth.

"Mae'r ffaith eu bod nhw wedi eu paentio yn ddu i'w cuddio yn dangos lefel o gynllwyn sy'n bryderus iawn."

Cafodd beiciau dros 70 o gystadleuwyr eu difrodi gan y pinnau, ond mae'n debyg na chafodd unrhyw un eu hanafu yn ystod y gystadleuaeth ddydd Sul diwethaf.

Llwyddodd y rhan fwyaf i newid olwynion a pharhau yn y digwyddiad.

Mae'r heddlu yn gweithio gyda'r trefnwyr i ymchwilio.

Dywedodd un o'r trefnwyr, Jamie Rowland: "Doeddwn i methu credu'r peth pan gefais yr alwad i ddweud beth oedd yn digwydd."

Ychwanegodd ei fod yn flin iawn bod "holl hyfforddiant ac ymdrech" y cystadleuwyr wedi ei ddifetha yn y fath ffordd.

Straeon perthnasol