Scarlets 26-13 Dreigiau

Taulupe Faletau Image copyright Huw Evans picture agency

Y Scarlets sydd wedi ennill y gêm ddarbi Gymreig gyntaf y tymor hwn, gyda buddugoliaeth gyfforddus dros y Dreigiau yn y Pro12 b'nawn Sul.

Fe wnaeth yr ymwelwyr fwy o gamgymeriadau na'r tîm cartref, mewn gêm flêr ym Mharc y Scarlets.

Gareth Owen sgoriodd y cais cyntaf cyn i Kristian Phillips ychwanegu ail yn fuan wedyn, a sgoriodd Rhys Priestland 13 o bwyntiau gyda'i droed.

Daeth cais i'r Dreigiau, wrth i Richie Rees fanteisio ar sgrym gryf yr ymwelwyr, ond roedd cic gosb gan Steven Shingler yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Mewn gêm ddifflach, rhoddodd cefnwr Cymru, Liam Williams berfformiad da, wrth i hyfforddwyr y tîm cenedlaethol, Warren Gatland a Neil Jenkins wylio.

Scarlets: Liam Williams; Harry Robinson, Gareth Owen, Scott Williams (capt), Kristian Phillips; Rhys Priestland, Gareth Davies; Rob Evans, Emyr Phillips, Samson Lee, Jake Ball, Johan Snyman, Aaron Shingler, John Barclay, Rory Pitman.

Eilyddion: Kirby Myhill, Phil John, Rhodri Jones, George Earle, James Davies, Aled Davies, Steven Shingler, Adam Warren.

Dreigiau: Lee Byrne (capt); Tom Prydie, Ben John, Ashley Smith, Hallam Amos; Jason Tovey, Jonathan Evans; Boris Stankovich, T Rhys Thomas, Dan Way, Ian Gough, Rynard Landman, Andy Powell, Nic Cudd, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Elliot Dee, Hugh Gustafson, Lloyd Fairbrother, James Thomas, Lewis Evans, Richie Rees, Angus O'Brien, Aled Brew.