Cyhoeddi Mesur Cynllunio Llywodraeth Cymru

Adeiladu tai

Mae'r gweinidog cyfoeth naturiol, Carl Sargeant, wedi cyflwyno Mesur Cynllunio Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Ymhlith y prif bwyntiau, mae'r mesur yn cynnig:

  • Y bydd ymgynghoriadau cymunedol ar ddatblygiadau mawr yn cael eu cynnal cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau system gynllunio fwy cadarn a chyflym, a fframwaith mwy eglur ar gyfer sut mae datblygwyr yn ymgysylltu â chymunedau o ran cynllunio ein dinasoedd, ein trefi, ein pentrefi a'n mannau agored;
  • Y bydd penderfyniadau cynllunio yn cael eu gwneud ar y lefel lywodraethol gywir - yn y dyfodol, bydd Gweinidogion yn penderfynu ceisiadau cynllunio ar ddatblygiadau o bwys arwyddocaol i Gymru;
  • Pan fo materion cynllunio yn estyn y tu hwnt i ffiniau awdurdod cynllunio lleol, y dylid ymdrin â nhw ar lefel isranbarthol drwy gynllun datblygu strategol a baratowyd gan banel cynllunio strategol. Bydd y panel hwn yn cynnwys aelodau a fydd yn cynrychioli buddiannau cymunedol ac amgylcheddol, a busnesau ac awdurdodau lleol;
  • System orfodi fwy effeithiol er mwyn sicrhau y bydd modd gweithredu'n brydlon pan fo pobl yn torri rheolaethau cynllunio.

'Bil blaenllaw'

Dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol:

"Rwy'n hynod falch o gyflwyno'r Bil {mesur} blaenllaw hwn, y cyntaf o'i fath yng Nghymru, a fydd yn cryfhau'r broses gynllunio ar ei hyd. Bydd hynny'n arwain at system effeithiol sydd orau i wasanaethu pobl Cymru ac sy'n addas ar gyfer y 21ain ganrif.

"Ymhlith y gwelliannau y gall cymunedau edrych ymlaen at eu gweld, bydd eglurder o ran sut a phryd y gallan nhw chwarae rhan yn y prosesau cynllunio ac ymgynghori, awdurdodau lleol yn cael eu mentora'n well a gwell proses apeliadau i sicrhau mwy o degwch, tryloywder a chyflymder.

"Ar ben hynny, mae'r Bil yn cynnig mai Gweinidogion Cymru ddylai gymryd cyfrifoldeb am benderfynu ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol.

"Rydyn ni'n ymgynghori ar hyn ac yn cynnig cynnwys prosiectau ynni rhwng 25 a 50 megawat. Bydd hyn yn sicrhau bod cynlluniau sy'n gallu effeithio ar gymunedau ar draws Cymru yn cael eu hystyried mewn cyd-destun ehangach a chyd-destun lleol.

"Mae cynllunio yn hanfodol i'n cymunedau, o adeiladu estyniad i dŷ i adeiladu ysgol leol newydd. Mae cyflwyno'r Bil hwn yn ddechrau cyfnod cyffrous ar gyfer cynllunio yng Nghymru.

"Byddaf yn rhoi mesurau yn eu lle yn fuan i sicrhau bod amcanion y Bil yn cael eu cyflawni'n llwyr.

"Dylai'r broses gael ei symleiddio a dylai cymunedau lleol gael y pŵer i wneud y penderfyniadau mawr fydd yn effeithio ar eu bywydau."

'Canoli pwer'

Mae cyflwyno'r Mesur Cynllunio wedi derbyn ymateb cymysg gyda Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Gynllunio, Russell George AC yn dweud: "Mae'n rhaid i gymunedau lleol gael y gair olaf ar faterion yn ymwneud â chynllunio a tydw i ddim yn credu bod y Bil yn gwneud hynny.

"Tydi'r newidiadau yma'n gwneud dim mwy na chanoli pwer.

"Rydw i'n poeni bod y gallu i wneud penderfyniadau yn cael ei rwygo oddi wrth bobl leol, tra bod gweinidogion Llafur yn gallu gorfodi bod penderfyniadau yn cael eu gwneud.

"Dylai'r broses gael ei symleiddio a dylai cymunedau lleol gael y pwer i wneud y penderfyniadau mawr fydd yn effeithio ar eu bywydau."

Galw am ymddiswyddo

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Prif Weinidog Carwyn Jones i ymddiswyddo fel y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg oherwydd bod y Bil Cynllunio wedi methu rhoi lle canolog i'r iaith.

Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Er gwaethaf yr holl gyngor gan Gomisiynydd y Gymraeg ac eraill, mae Carwyn Jones wedi dewis peidio â rhoi lle canolog i'r Gymraeg yn y ddeddfwriaeth.

"Mae rhaid i ni ofyn iddo ystyried ei sefyllfa felly: bydd y Gymraeg yn dal ar ei cholled oherwydd ei ddiffyg arweiniad.

"Mae'n drist, ond, gan ystyried ei addewidion - yn enwedig yr addewid clir yn ei ddogfen bolisi ddiweddar 'Bwrw Mlaen' - ymddiswyddo o'i rôl fel y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg yw'r unig ddewis anrhydeddus sydd ganddo fe."

'Allweddol'

Ond mae Cadeirydd CBI Cymru, Chris Sutton, wedi croesawu'r Mesur gan ddweud: "Mae gan y Bil y potensial i sicrhau system gynllunio gwirioneddol ragweithiol a all greu cynnydd, a gwella enw da Cymru fel lleoliad ar gyfer busnes.

"Byddai cyflwyno cynlluniau strategol yn golygu ein bod ni'n gallu canolbwyntio'n fwy eang, gan sicrhau ein bod ni'n cael y datblygiadau cywir yn y lleoliad cywir.

"Mae sicrhau'r system gynllunio gywir yn allweddol ar gyfer twf yn yr economi, yn enwedig os yw'n galluogi busnesau i fuddsoddi'n hyderus.

"Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ar y ddeddfwriaeth yma gyda Llywodraeth Cymru ac aelodau cynulliad yn y misoedd nesaf."

Straeon perthnasol