Kirsty Williams yn galw am 'senedd go iawn'

Kirsty Williams
Image caption Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, yn areithio yng Nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Glasgow.

Mewn araith yng Nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Glasgow mae Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, wedi galw am 'Senedd go iawn' i Gymru.

Dywedodd bod yn rhaid dysgu'r wers o refferendwm yr Alban bod pobl ar draws y DU eisiau mwy o ddylanwad dros eu dyfodol.

Galwodd Ms Williams am system ffederal sy'n cynnwys pedair cenedl gyfartal.

Yn ogystal heriodd y pleidiau eraill i ymrwymo i argymhellion y Comisiwn Silk ar ragor o bwerau i Gymru.

'Un llais'

Dywedodd Ms Williams: "Rydw i'n eu herio i wneud yr un peth â Nick Clegg ac ymrwymo i argymhellion y Comisiwn Silk - er mwyn i Gymru siarad gydag un llais.

"Mae'n rhaid i Gymru gael 'Senedd go iawn'. Senedd sy'n adlewyrchu ewyllys y bobl. Senedd gyda'r pwer i wneud gwahaniaeth. Senedd sy'n dangos bod datganoli yn gallu llwyddo.

"Mae ein neges i bobl Cymru yn glir. Mae pleidlais i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bleidlais i Gymru gael dylanwadu ar ei ffawd ei hun.

Ychwanegodd: "Ers dyddiau Lloyd George mae'r Rhyddfrydwyr wedi bod o blaid ymreolaeth. Ac rydw i'n credu bod hynny'n nes nawr nac y mae wedi bod ers cenhedlaeth."

'Hunanfoddhad'

Yn ôl Ms Williams mae 'hunanfoddhad yn San Steffan' wedi galluogi i genedlaetholwyr ffynnu yn yr Alban ac wedi eu rhoi ar y droed flaen.

"Mae'r ymwahanwyr eisiau rhannu ein gwlad, ei rhannu'n hi'n ddarnau - a bu bron iawn i ni adael iddyn nhw wneud hynny.

"Tydi'r agwedd bresennol o liniaru'r pwysau ble mae'r esgid gyfansoddiadol yn gwasgu galetaf ddim yn ddigon da.

"Pe bai'r agwedd honno'n parhau, peidiwch â synnu pe bai Cymry'n penderfynu mai dim ond drwy bleidleisio i'r cenedlaetholwyr y gwnaiff pethau newid. Mae'n rhaid i'r Democratiaid Rhyddfrydol beidio â gadael i hynny ddigwydd."

'Partneriaid cyfartal'

Dywedodd yr arweinydd Cymreig nad oedd modd sicrhau uchelgais yr Albanwyr am ymreolaeth, rhywbeth y pwysleisiodd y dylen nhw dderbyn, heb hefyd sicrhau uchelgais Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Yn ôl Ms Williams "rydym ni'n bedair cenedl ar wahan gydag ein huchelgais, ein hanghenion a'n barn ein hunain. Mae'n rhaid i bob un o'r cenhedloedd hynny dderbyn lle wrth y bwrdd trafod.

"Mae angen ateb ffederal i'r broblem, ateb ble bydd y pedair cenedl yn bartneriaid cyfartal yn gyfrifol am eu ffawd eu hunain, fel rhan o un teulu unedig - a nawr yw'r amser i wneud hynny.

"Mae'n rhaid dysgu'r wers o'r refferendwm bod pobl ar draws y DU eisiau mwy o ddylanwad ar eu dyfodol.

"Mae'n rhaid i ni ddangos i bobl bod newid ar ei ffordd, rhaid dangos nad annibyniaeth yw'r unig ddewis."

Yn ogystal dywedodd wrth y gynhadledd bod y Blaid Lafur wedi bod mewn pwer ers 'dyfodiad datganoli' yng Nghymru.

"Roedd y Cynulliad fod yn symbol o obaith, ond mae Llafur wedi tagu'r gobaith hwnnw. Maen nhw wedi gwastraffu'r cyfle roedd y Cynulliad yn ei gynnig."

Straeon perthnasol