Trafod uno cyngorau Blaenau Gwent a Thorfaen

Arian

Bydd dau gyngor yn ne Cymru yn cynnal trafodaethau ynglŷn â'r posibilrwydd o uno.

Mae arweinwyr cynghorau Blaenau Gwent a Thorfaen wedi cytuno i gynnal cyfarfodydd yn hwyrach yn y mis er mwyn cyflwyno'r syniad o uno i gynghorwyr.

Dywedodd Hedley McCarthy o Gyngor Blaenau Gwent y byddai datblygiad o'r fath yn lleddfu 'pwysau ariannol presennol' ar yr awdurdodau.

Mae gweinidogion llywodraeth Cymru wedi awgrymu eu bod eisiau i nifer y cynghorau ostwng o 22 i 10 neu 12,

Trafodaethau eraill

Wythnos diwethaf pleidleisiodd Rhondda Cynon Taf i ddechrau trafodaethau ynglŷn ag uno gyda Merthyr Tudful, sydd hefyd wedi cynnal trafodaethau cychwynnol gydag awdurdodau eraill.

Mae cynghorau Sir Ddinbych a Chonwy hefyd wedi dangos parodrwydd i drafod uno, ond mae Cyngor Casnewydd wedi dweud nad ydyn nhw eisiau uno gyda Sir Fynwy, ac mae Wrecsam hefyd wedi dweud nad ydyn nhw'n fodlon uno gyda Sir y Fflint.

Mae'r mater wedi codi ei ben yn dilyn argymhellion Comisiwn Williams ar ddyfodol llywodraeth leol yng Nghymru.

Yn ogystal daw wrth i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru honni bod angen i'r 22 cyngor yng Nghymru arbed £200 miliwn o'u cyllidebau erbyn 2018.

'Lleddfu pwysau ariannol'

Dywedodd arweinydd Cyngor Torfaen, Bob Wellington: "Mae llywodraeth leol yn esblygu a'r farn bragmatig yw nad yw'r status quo bellach yn ddewis."

Ychwanegodd arweinydd Cyngor Blaenau Gwent, Hedley McCarthy: "Erbyn hyn rydym ni wedi cyrraedd penllanw.

"Mae gennym ni ddyletswydd i archwilio opsiynau ar gyfer uno gwirfoddol a fyddai'n lleddfu pwysau ariannol presennol ac a all olygu ein bod yn elwa o gefnogaeth a buddion ariannol gan Lywodraeth Cymru."

Mae cynghorau Blaenau Gwent a Thorfaen wedi cytuno i gynnal cyfarfodydd cabinet arbennig ar yr un pryd ar ddydd Llun, 20 Hydref.

Straeon perthnasol