Cadarnhau Slade fel rheolwr Caerdydd

Russell Slade
Image caption Mae Russell Slade wedi bod yn ymgynghorydd i Gaerdydd ers gadael ei swydd fel rheolwr Leyton Orient

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cadarnhau mai Russell Slade ydy rheolwr newydd y clwb.

Dywedodd Vincent Tan, perchennog y clwb, ei fod wedi cynnig y swydd i Slade ar ôl ystyriaeth ddwys.

Roedd Caerdydd wedi bod heb reolwr ers i gyn ymosodwr Manchester United, Ole Gunnar Solskjaer, gamu o'r neilltu ar 18 Medi.

Scott Young a Danny Gabbidon sydd wedi bod wrth y llyw dros dro ers hynny.

Mae Slade, 53, wedi bod yn helpu'r Adar Gleision fel ymgynghorydd ers iddo adael ei swydd fel rheolwr Leyton Orient.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Iwan Griffiths yn holi Tim Hartley.

'Sefydlogrwydd a phrofiad'

Wedi'r cyhoeddiad, dywedodd Slade:

"Rwy'n ddiolchgar i Vincent [Tan] am roi'r cyfle yma i mi gyda Chaerdydd, sy'n glwb gwych."

Meddai Mr Tan: "Rwyf wedi siarad â nifer o wybodusion yn y gêm am Russell, ac mae'r ymateb wedi bod yn hynod gadarnhaol.

"Mae pobl yn hoff iawn ohono ac yn ei barchu, yn enwedig ei gyn gadeirydd Barry Hearn.

"Bydd yn dod â sefydlogrwydd a phrofiad i'r clwb, rhywbeth sy'n angenrheidiol."

"Rwy'n gofyn i gefnogwyr roi cyfle iddo er mwyn iddo brofi ei werth i'r clwb, ac i roi eu cefnogaeth lawn iddo wrth i ni geisio sicrhau lle yn yr Uwchgynghrair."

Straeon perthnasol