Collins, Evans a Dummett allan o garfan Cymru

James Collins
Image caption Ni fydd James Collins yn chwarae i Gymru oherwydd anaf i'w forddwyd.

Ni fydd chwaraewr amddiffynnol West Ham, James Collins, chwaraewr canol cae Wolves, Lee Evans, na chwaraewr Newcastle United, Paul Dummett, yn chwarae yng ngemau rhagbrofol Euro 2016 Cymru yn erbyn Bosnia Herzegovina a Chyprus yn ddiweddarach y mis yma.

Doedd Collins ddim wedi chwarae yng ngêm ragbrofol cyntaf Cymru yn erbyn Andorra fis diwethaf oherwydd anaf i linyn y gar, ac erbyn hyn mae ganddo anaf i gesail y forddwyd.

Dim ond dwywaith mae'r chwaraewr 31 oed wedi chware i West Ham y tymor hwn.

Roedd Lee Evans wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf yn dilyn anafiadau i Aaron Ramsey, Joe Allen a David Vaughan, ond mae yntau hefyd wedi'i anafu erbyn hyn.

Cafodd anaf i linyn y gar yn ystod gêm Wolves yn erbyn Huddersfield ar 1 Hydref.

Mae chwaraewr Newcastle United, Paul Dummett, hefyd wedi gorfod tynnu allan oherwydd anaf.

Mae Declan John, o Glwb Pêl-droed Caerdydd, a Joe Walsh, o dîm Crawley Town, bellach wedi cael eu galw i'r garfan.

Bydd Cymru'n wynebu Bosnia Herzegovina ar 10 Hydref a Chyprus ar 13 Hydref, y ddwy gêm yng Nghaerdydd.

Straeon perthnasol