Cynghorau Cymru'n clywed faint y byddan nhw'n ei dderbyn

Hutt
Image caption Y Gweinidog Cyllid Jane Hutt

Mi fydd cynghorau Cymru yn cael gwybod ddydd Mercher faint o arian y byddan nhw yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16.

Yn sgil hyn mi fydd y 22 awdurdod lleol yn gallu pennu eu cyllidebau nhw ar gyfer y flwyddyn nesa a hefyd osod lefelau treth y cyngor.

Eisioes mae'r llywodraeth wedi dweud wrth gynghorau i baratoi am doriadau o hyd at 4.5% i'w cyllidebau.

Mae'r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt wedi dweud mai hon oedd y "gyllideb anodda' mae unrhyw lywodraeth ... wedi gorfod ei gosod" ers sefydlu'r Cynulliad yn 1999.

Mae Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru (WLGA) wedi rhybuddio y gallai rhai gwasnaethau ddiflannu'n llwyr am eu bod yn anfforddiadwy.

Dywedodd Ellen ap Gwyn, arweinydd Cyngor Ceredigion ar Raglen Dylan Jones ar Radio Cymru eu bod yn disgwyl rhagor o doriadau ond y nod fydd peidio torri gwasanaethau yn ormodol.

"Rydym wedi gorfod derbyn tua £9.5 miliwn yn llai ar gyfer eleni ac rydym yn rhagweld bydd y ffigwr rhwng £10 -£11 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf.

"Mae ardaloedd gwledig yn dueddol o wneud yn waeth oherwydd bod y fformiwla mae'r llywodraeth yn ei ddefnyddio yn gweithio yn ein herbyn."

Diogelu yn syniad gwael?

Image caption Mae angen rhoi hyblygrwydd i gynghorau benderfynu lle mae'r fwyell yn disgyn, yn ôl Steve Thomas

Mae prif weithredwr yr WLGA wedi cwestiynu a ddylai cyllidebau ysgolion gael eu diogelu pan mae cynghorau'n cael eu gorfodi i wneud toriadau anferth i wasanaethau eraill.

Roedd amddiffyn cyllidebau ysgolion yn un o bolisïau craidd Carwyn Jones pan roedd yn ceisio am arweinyddiaeth Llafur Cymru yn 2009.

Yn siarad ar Radio Wales, dywedodd pennaeth yr WLGA Steve Thomas: "Mi fydd angen i ni ymestyn y ddadl hon ynglŷn â sut rydym eisiau i'n gwasanaethau cyhoeddus edrych, achos effaith y diogelu anferth yma i wasanaethau mwy, yw gwasgu anferth ar wasanaethau llai.

"Rydan ni am golli'r gwasanaethau yma os yw hyn yn parhau.

"Be' mae'r cynghorau eisiau yw'r rhyddid i wneud penderfyniadau ar lefel lleol. Maen nhw'n agos iawn at eu cymunedau."

'Angen uno?'

Cynghorau Casnewydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont a Chaerdydd gafodd y toriadau lleia i'w cyllidebau yn setliad llywodraeth lleol 2014-15 o'u cymharu â rhai 2013-2014. Roedd y toriadau ucha' yn Sir Ddinbych, Ceredigion a Phowys.

Yn gynharach eleni argymhellodd Comisiwn Williams, sy'n edrych ar ddyfodol llywodraeth leol yng Nghymru, y dylid torri nifer y cynghorau o 22 i 10 neu 12.

Un ffordd o arbed arian, sy'n cael ei thrafod ar hyn o bryd, yw uno cynghorau, gyda rhai'n credu y byddai hyn yn arwain at system fwy effeithlon a llai o fiwrocratiaeth.

Mae arweinwyr cynghorau Blaenau Gwent a Thorfaen wedi cytuno i gynnal cyfarfodydd er mwyn cyflwyno'r syniad i gynghorwyr.

Yn ogystal mae Rhondda Cynon Taf am ddechrau trafod uno gyda Merthyr Tudful sydd wedi cynnal trafodaethau cychwynnol ag awdurdodau eraill.

Dim eisiau uno

Yn y cyfamser, mae cynghorau Sir Ddinbych a Chonwy wedi dweud eu bod yn barod i drafod uno, ond mae Cyngor Casnewydd wedi dweud nad ydyn nhw eisiau uno gyda Sir Fynwy ac mae Wrecsam wedi dweud nad ydyn nhw'n fodlon uno gyda Sir y Fflint.

Mae Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru yn honni bod angen i'r 22 cyngor arbed £200 miliwn o'u cyllidebau erbyn 2018.

Ac mae'r Cynulliad yn cymeradwyo'r gyllideb o ganlyniad i gytundeb dwy flynedd rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae cyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16 yn £15.33 biliwn tra oedd un y flwyddyn flaenorol yn £15.37 biliwn.

Bydd y Gwasanaeth Iechyd yn derbyn £425 miliwn yn ychwanegol i'w wario dros y ddwy flynedd nesaf.

Straeon perthnasol