Halifax 2-2 Wrecsam

Daeth Wrecsam yn ôl ddwywaith i hawlio pwynt yn erbyn deg dyn Halifax.

Aeth Halifax ar y blaen diolch i ergyd Danny Schofield a nhw oedd ar y blaen ar yr egwyl.

Cafodd Mark Roberts ei anfon oddi ar y cae yn fuan yn yr ail hanner am droseddu yn erbyn Lewis Moult.

Fe gafodd Moult ei ddial drwy'i gwneud hi'n gyfartal gyda pheniad, ond doeddwn nhw ddim yn gallu dal eu gafael ar y faintais.

Scott Boden wnaeth ddarparu'r croesiad gyda Danny Hattersley yn sgorio er mwyn adfer y fantais i'r tîm cartref.

Ond roedd y Dreigiau'n falch i weld Moult yn ei gwneud hi'n gyfartal unwaith eto yn hwyr yn y gêm, i sicrhau pwynt i'r ymwelwyr.

Mae Wrecsam bellach yn wythfed yn y tabl.