Apêl Gareth Bale i gefnogwyr Cymru

Gareth Bale Image copyright Getty Images
Image caption Gareth Bale

Dywed Gareth Bale ei fod yn gobeithio y bydd y dorf fawr sydd i'w disgwyl yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn codi perfformiad y tîm yn erbyn Bosnia ddydd Gwener.

Bale sgoriodd ddwy gôl Cymru yn erbyn Andorra fis diwethaf yn y rowndiau rhagbrofol ar gyfer Euro 2016.

Er gwaetha'r perfformiad siomedig dywed Cymdeithas Pêl-droed Cymru fod bron i 25,000 o docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer y gêm.

Hwn fydd y dorf fwyaf ar gyfer gêm ryngwladol yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae Bale, 25 oed, hefyd wedi dweud wrth adran chwaraeon y BBC y byddai cyrraedd y rowndiau terfynol yn Ffrainc yr un mor arbennig iddo fe ag oedd ennill Cynghrair y Pencampwyr gyda Real Madrid.

Anrhydedd fawr

"Byddai hynny gystal ag ennill Cynghrair y Pencampwyr ac rwyf yn obeithiol y gallwn ni ei wneud e," meddai.

"Fe allai'r dorf fod yn chwaraewr ychwanegol.

"'Dy ni heb gael torfeydd mawr yn y gorffennol, ond rwy'n teimlo fod perfformiadau'r tîm yn gwella."

Dywedodd ei fod yn anrhydedd o'r mwyaf i chwarae dros ei wlad.

"Rydym yn cael y canlyniadau cywir ac rwy'n obeithiol y bydd y cefnogwyr yn dod i'n cefnogi a gobeithio y gallwn roi perfformiad da a thri phwynt nos Wener."

Tridiau ar ôl y gêm yn erbyn Bosnia-Hercegovina, fe fydd Cymru yn wynebu Cyprus yng Nghaerdydd.

Y timau sydd yn yr un grŵp a Cymru yw Bosnia-Hercegovina, Gwlad Belg, Israel, Cyprus ac Andorra.

Bydd y ddau dîm sy'n gorffen uchaf yn siŵr o'u lle yn Ffrainc yn 2016, gydag enw'r trydydd yn cael ei roi yn yr het ar gyfer y gemau ail gyfle.

Hwn fyddai'r tro cynta i'r tim lwyddo i gyraedd rowndiau terfynol un o'r prif gystadleuaethau ers 1958, pan gollodd y tim 1-0 i Brasil yn rownd go gyn-derfynol Cwpan y Byd yn Sweden.

Straeon perthnasol